peoplepill id: y-proll
YP
3 views today
3 views this week
The basics

Quick Facts

The details (from wikipedia)

Biography

Un o Feirdd yr Uchelwyr oedd Y Proll (bl. diwedd y 14g a dechrau'r 15fed). Ceir ansicrwydd ynglŷn ag ystyr a ffurf ei enw barddol anghyffredin. Cyfeirir mewn rhai ffynonellau yn y llawysgrifau at fardd o'r enw 'Y Prol', ond ymddengys mai bardd arall oedd hwnnw. Mae tarddiad ac ystyr y gair 'proll' yn ddirgelwch.

Bywgraffiad

Ychydig a wyddom am y bardd ac rydym yn dibynnu yn bennaf ar dystiolaeth ei gerdd i Hopcyn ap Tomas o Ynysforgan am ein gwybodaeth. Dyma'r unig gerdd gan y bardd sydd wedi goroesi. Cedwir y gerdd mewn rhan o Lyfr Coch Hergest yr ychwanegywd ato tua'r flwyddyn 1400 pan fu ym meddiant Hopcyn. Rhaid felly ei fod yn ei flodau cyn hynny.

Mae cerdd Y Proll yn un o bum awdl foliant i Hopcyn ap Tomas sydd wedi goroesi; ceir awdlau eraill iddo gan Llywelyn Goch ap Meurig Hen, Dafydd y Coed, Meurig ab Iorwerth, a Ieuan Llwyd ab y Gargam.

Llyfryddiaeth

  • R. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd y Coed a beirdd eraill o Lyfr Coch Hergest (Aberystwyth, 2002). ISBN 0-947531-71-8

Cyfeiriadau

The contents of this page are sourced from Wikipedia article. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
Lists
Y Proll is in following lists

By work and/or country

comments so far.
Comments
From our partners
Sponsored
Y Proll
arrow-left arrow-right instagram whatsapp myspace quora soundcloud spotify tumblr vk website youtube pandora tunein iheart itunes