peoplepill id: wyn-jones-3
WJ
United Kingdom Wales
5 views today
8 views this week
Wyn Jones
Welsh musician and record producer

Wyn Jones

The basics

Quick Facts

Intro
Welsh musician and record producer
Work field
Gender
Male
Place of birth
Cardigan, Ceredigion, Wales, United Kingdom
Place of death
Cardigan, Ceredigion, Wales, United Kingdom
Age
61 years
Family
Siblings:
Richard Jones
The details (from wikipedia)

Biography

Cerddor a chynhyrchydd o Gymro oedd Wyn Lewis Jones (25 Medi 1959 – 24 Mehefin 2021). Gyda'i frawd Richard ffurfiodd y grŵp Ail Symudiad a chwmni recordiau Fflach yn Aberteifi.

Bywgraffiad

Ganwyd Wyn yn fab i Moelwyn a Betty Jones, yn frawd iau i Richard (1955–2021). Fe'i magwyd yn Aberteifi.

Yn 1978, ar ddiwedd y cyfnod pync, ffurfiodd y band Ail Symudiad gyda'i frawd. Roedd Wyn yn chwarae'r gitâr fas a chanu llais cefndir. Cafodd y band eu dylanwadu gan grwpiau fel Y Trwynau Coch, Buzzcocks, The Clash a'r Sex Pistols ac yn un o'r cyntaf o'r ardal i chwarae caneuon roc. Perfformiodd y grŵp ei gig cyntaf ym Mart Aberteifi ym Mai 1979. Danfonodd y grŵp gasét o'i caneuon at Eurof Williams, cynhyrchydd rhaglen Sosban yn Abertawe ar y pryd, a hynny yn dilyn cyngor gan rai o aelodau'r Trwynau Coch. Yn fuan daeth y band yn boblogaidd gyda'r gynulleidfa a bu'r grŵp yn chwarae cyngherddau ar draws Cymru yn yr 1980au. Yn 1982, enillodd y band y wobr prif grŵp roc yng Ngwobrau Sgrech yng Nghorwen.

Yn 1981, sefydlodd Wyn a Richard label Fflach, a'u bwriad oedd recordio caneuon gan grwpiau newydd oedd yn datblygu yn y cyfnod - grwpiau fel Y Ficar ac Eryr Wen. Datblygodd Wyn stiwdio recordio gan ddatblygu ei ddoniau fel cynhyrchydd recordiau. Drwy hyn y rhoddodd gyfle i nifer fawr o fandiau Cymraeg yr ardal a thu hwnt i recordio eu caneuon.

Yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ynys Môn 2017, urddwyd Wyn a Richard gyda'r wisg werdd wrth eu derbyn i'r Orsedd.

Marwolaeth

Bu farw yn 61 mlwydd oed wedi brwydro yn hir gyda chancr y pancreas. Roedd yn gadael ei frawd Richard a'i wraig Ann, a'i neiant Dafydd ac Osian.

Cynhaliwyd angladd preifat i'w deulu a ffrindiau am 12:00, 30 Mehefin 2021. Cyn hynny gadawodd ei gartref yn Tenby Road, Aberteifi am 11:45 i wneud un siwrnai olaf rownd y dre.

Cyfeiriadau

The contents of this page are sourced from Wikipedia article. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
Lists
Wyn Jones is in following lists
comments so far.
Comments
From our partners
Sponsored
Credits
References and sources
Wyn Jones
arrow-left arrow-right instagram whatsapp myspace quora soundcloud spotify tumblr vk website youtube pandora tunein iheart itunes