peoplepill id: william-williams-52
WW
Wales
3 views today
3 views this week
William Williams
Welsh-American poet

William Williams

The basics

Quick Facts

Intro
Welsh-American poet
A.K.A.
Gwilym ab Ioan
Places
Gender
Male
Birth
Place of birth
Llanycil, Gwynedd, Wales, United Kingdom
Place of death
New York City, New York, USA
Age
68 years
The details (from wikipedia)

Biography

Roedd William John Williams (Gwilym ab Ioan) (1800 โ€“ 28 Ionawr 1868) yn fardd Cymraeg yn yr Unol Daleithiau.

Cefndir

Ganwyd Gwilym ab Ioan yn y Tyddyn Du, Llanycil, Sir Feirionnydd yn blentyn i John Williams gweithiwr amaethyddol a bardd gwlad. Fe'i haddysgwyd mewn ysgol elfennol a gynhaliwyd gan Y Parch Richard Jones, Y Parc yng Nghapel y Methodistiaid Calfinaidd yn Llanuwchllyn. Dysgodd cerdd dafod fel aelod o Gymdeithas Cymreigyddion, Llanuwchllyn.

Gyrfa

Wedi ymfudo i'r Unol Daleithiau ym 1824 bu'n gweithio mewn cangen o fanc Nasau yn Ninas Efrog Newydd. Roedd yn aelod amlwg o gymdeithas Cymraeg y ddinas, yn aelod blaenllaw o Gymdeithas Elusengar Dewi Sant ac yn ysgrifennydd Cymdeithas Fuddiol Dewi Sant.

Cafodd llwyddiant eisteddfodol efo'i ganu. Enillodd wobr o gini aur a medal yn Eisteddfod y Fenni 1837 am gyfres o 12 o englyn er cof am Thomas Price (Carnhuanawc). Enillodd nifer o wobrau mewn eisteddfodau yn yr Unol Daleithiau hefyd gan gynnwys dwy fedal arian am gerdd ar ffieidd-dra rhyfel ac am gerdd yn clodfori elusengarwch. Cyhoeddodd nifer fawr o gerddi ym mhapurau a chylchgronau Cymraeg America. Roedd yn cael cystadlaethau creu englyn byrfyfyr gyda'i gyfaill a chyd bardd Edward Jones (Eos Glan Twrch); wedi marwolaeth Gwilym, cyhoeddodd yr Eos nifer o'r englynion yn y papurau Cymraeg. Rhwng 1853 a 1856 bu'n cyd-olygydd Y Cylchgrawn Cenedlaethol Cylchgrawn llenyddol misol, Cymraeg am lenyddiaeth, barddoniaeth a cherddoriaeth a gyhoeddwyd yn Efrog Newydd.

Teulu

Ym 1828 priododd Gwilym ab Ioan รข Jane Reed o Oneida County, Efrog Newydd. Bu iddynt bump o blant.

Marwolaeth

Bu farw Gwilym ab Ioan o anhwylder yr arennau yn 68 mlwydd oed, a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Cypress Hill, Long Island, Efrog Newydd. Y flwyddyn ganlynol enillodd ei gyfaill barddol Y Parch Richard Foulkes Edwards (Risiart Ddu o Wynedd) prif wobr Eisteddfod Utica am bryddest er cof amdano.

Cyfeiriadau

The contents of this page are sourced from Wikipedia article. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
Lists
William Williams is in following lists
comments so far.
Comments
From our partners
Sponsored
Credits
References and sources
William Williams
arrow-left arrow-right instagram whatsapp myspace quora soundcloud spotify tumblr vk website youtube pandora tunein iheart itunes