peoplepill id: william-jones-14
Welsh harpist
William Jones
The basics
Quick Facts
The details (from wikipedia)
Biography
- Am bobl eraill o'r un enw, gweler William Jones.
Telynor Cymreig oedd William Jones (bl. tua 1700 - 1720), a oedd yn frodor o blwyf Llansantffraid Glan Conwy (Sir Conwy) yn rhan isaf Dyffryn Conwy. Roedd yn enwog yn ei ddydd yng ngogledd Cymru fel telynor medrus.
Hanes
Telynor teulu proffesiynol yng ngwasanaeth teulu'r Mostyniaid ym Mhlas Gloddaeth yn y Creuddyn, ger Llandudno, oedd William.
Cofnodir hanes am ei ddiwedd sy'n debyg i chwedl werin. Un noson yr oedd gwledd fawr yn y Gloddaeth a William yn diddanu'r gwesteion. Ar ganol y wledd ymadawodd y telynor heb air gan adael ei delyn ar ôl yn y neuadd ac ni welwyd ef ar ôl hynny na chlywyd dim o gwbl o'i hanes gan neb.
Cyfeiriadau
The contents of this page are sourced from Wikipedia article.
The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
Lists
William Jones is in following lists
By field of work
By work and/or country
comments so far.
Comments
William Jones