peoplepill id: william-ellis-jones
WEJ
Wales
3 views today
3 views this week
William Ellis Jones
Welsh poet

William Ellis Jones

The basics

Quick Facts

Intro
Welsh poet
A.K.A.
Cawrdaf Gwilym Cawrdaf
Places
Gender
Male
Place of birth
Abererch, Gwynedd, Wales, United Kingdom
Age
52 years
Family
Siblings:
Relatives:
The details (from wikipedia)

Biography

Bardd ac awdur o Gymro oedd William Ellis Jones (9 Hydref 1795 – 27 Mawrth 1848), sy'n fwy adnabyddus wrth ei enw barddol Cawrdaf.

Bywgraffiad

Ganed Cawrdaf ym mhlwyf Abererch yn yr hen Sir Gaernarfon (Gwynedd) yn 1795. Daeth yn argraffydd wrth ei alwedigaeth a sefydlodd argraffwasg yn nhref Dolgellau ac felly daeth yn gyfarwydd â rhai o lenorion mawr ei fro, fel Dafydd Ddu Eryri a Dafydd Ionawr.Teithiodd trwy Gymru a Lloegr a hefyd drwy Ffrainc a'r Eidal (peth anghyffredin i rywun o'i ddosbarth yn y cyfnod hwnnw). Yn ei ddyddiau olaf bu'n gweithio yn swyddfa Seren Gomer yng Nghaerfyrddin. Bu farw yn 1848.

Gwaith llenyddol

Cyfansoddodd nifer o gerddi yn cynnwys yr awdl fuddugol yn eisteddfod Aberhonddu 1824 a cherddi eraill, mwy gwerinol, megis 'Hiraeth Cymro am ei Wlad'.

Fel awdur rhyddiaith fe'i cofir am y rhamant arloesol Y Bardd neu'r Meudwy Cymreig (1830). Ar un adeg roedd hon yn cael ei hystyried y nofel Gymraeg gyntaf, ond prin y gellir ei galw yn nofel go iawn, mewn gwirionedd.Mae'n cynnwys disgrifiadau cofiadwy o olygon o fyd natur, megis storm ar y môr, ond pwrpas hyfforddiadol yn null y pregethwyr sydd i'r llyfr, ac nid yw'r cynllun yn foddhaol.

Llyfryddiaeth

  • Y Bardd neu'r Meudwy Cymreig (1830; ail argraffiad, H. Humphreys, Caernarfon, d.d., tua 1860)
  • Gweithoedd Cawrdaf (1851). Detholiad o gerddi a rhyddiaith a gyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth.
The contents of this page are sourced from Wikipedia article. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
Lists
William Ellis Jones is in following lists
comments so far.
Comments
From our partners
Sponsored
Credits
References and sources
William Ellis Jones
arrow-left arrow-right instagram whatsapp myspace quora soundcloud spotify tumblr vk website youtube pandora tunein iheart itunes