peoplepill id: ulo
U
Wales
9 views today
9 views this week
The basics

Quick Facts

Intro
Welsh saint
Places
Work field
Gender
Male
Residence
Anglesey, Isle of Anglesey, Wales, United Kingdom; Dwygyfylchi, Conwy County Borough, Wales, United Kingdom
The details (from wikipedia)

Biography

Un o seintiau cynnar Cymru oedd Ulo (neu Iulo). Ychydig iawn sy'n hysbys amdano.

Hanes a thraddodiad

Mae'n bosibl mai Cymreigiad o'r enw personol Lladin Julius yw Ulo (trwy Iulo). Ceir sant adnabyddus o'r enw Julian (neu Julius) a ferthyrwyd yng Nghaerleon tua'r flwyddyn 304 OC. Ond mae'r eglwysi a lleoedd eraill a gysylltir â fo i gyd yn ne Cymru. Yn ogystal ni cheir enghraifft o'r ffurf Ulo yn y lleoedd hynny.

Cysylltir Sant Ulo â thri llecyn yng ngogledd-orllewin Cymru. Ar Ynys Môn ceir yr enw 'Capel Ulo' ar fferm ger Caergybi ond nid oes unrhyw olion hynafol i'w gweld yno heddiw. Gerllaw y fferm roedd 'Ffynnon Ulo' i'w cael ar un adeg. 'Capelulo' yw'r enw amgen am bentref Dwygyfylchi, rhwng Penmaenmawr a thref Chonwy. Nid oes olion capel yno heddiw ond roedd y gair 'capel' yn gallu golygu "cell feudwy" yn yr hen oesoedd; adeilad syml o bren fyddai fel rheol.

Cyfeiriadau

The contents of this page are sourced from Wikipedia article. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
Lists
Ulo is in following lists
comments so far.
Comments
From our partners
Sponsored
Ulo
arrow-left arrow-right instagram whatsapp myspace quora soundcloud spotify tumblr vk website youtube pandora tunein iheart itunes