peoplepill id: tomos-efans
TE
United Kingdom
3 views today
3 views this week
Tomos Efans
Welsh poet and baptist minister

Tomos Efans

The basics

Quick Facts

Intro
Welsh poet and baptist minister
A.K.A.
Cyndelyn Tomos Efans (Cyndelyn)
Gender
Male
Birth
Place of birth
Llansanffraid Glan Conwy, Conwy County Borough, Wales, United Kingdom
Age
71 years
The details (from wikipedia)

Biography

Bardd a Gweinidog gyda'r Bedyddwyr oedd y Parch Tomos Efans; Cyndelyn (1837 – 10 Chwefror 1908).

Ieuenctid

Ganwyd Cyndelyn yn y Graig, Llansanffraid Glan Conwy, yr hynaf o chwech o blant i Ifan ab Ifan, gwas ffarm a Margaret ei wraig.

Derbyniodd rywfaint o addysg elfennol yn Ysgol Genedlaethol Llansanffraid gan adael yr ysgol yn 12 mlwydd oed er mwyn gweithio fel gwas ffarm. Yn fuan wedi ymadael a'r ysgol, ym 1849, cafodd ei fedyddio yn Llyn y Felin, Pentrefelin a'i dderbyn yn aelod o achos y Bedyddwyr yng nghapel Salem, Fforddlas.

Gyrfa

Yn 14 oed prentisiwyd Cyndelyn fel asiedydd yng ngwaith coed Hugh Hughes y Graig. Ym 1860 symudodd i dref Conwy i weithio fel saer coed i gwmni rheilffordd y London & North Western Railways. Wedi ychydig flynyddoedd fe'i penodwyd yn fforman seiri coed dosbarth Bangor o'r cwmni ac yna'n arolygydd pontydd y dosbarth hyd ei ymddeoliad ym 1904.

Bywyd Teuluol

Ym 1862 priododd Cyndelyn ag Ann Jones, Bryngolau, Ochr y Penrhyn, yng nghapel Annibynwyr Llandudno; bu iddynt naw o blant sef chwe mab a thair merch.

Gweinidogaeth

Cafodd Cyndelyn ei ddylanwadu gan ddiwygiad mawr 1859 a dechreuodd bregethu fel pregethwr cynorthwyol yn yr un flwyddyn. Cafodd ei ordeinio'n weinidog tua 1875, fel gweinidog heb ofal, yn gwasanaethu capeli'r Bedyddwyr yng Nghonwy, y Rowen, Fforddlas ac Eglwys-bach.

Bardd

Bu Cyndelyn yn rhigymu ers yn ifanc, dysgodd y gynghanedd gan Cynddelw. Bu'n aelod pybyr o Arwest Glan Geirionydd ac fe'i derbyniwyd yn aelod o Orsedd Beirdd Ynys Prydain. Bu'n feirniad ac yn arweinydd eisteddfodau poblogaidd ar hyd glannau Gogledd Cymru.

Gwasanaethodd fel bardd gwlad, yn bennaf, yn canu i briodasau a sgwennu beddargraffiadau cydnabod yn ardal Conwy a chanodd i bynciau llosg crefyddol a Rhyddfrydol ei ddydd.

Marwolaeth

Bu farw yn ei gartref, Brynhyfryd, Llansanffraid Glan Conwy yn 71 mlwydd oed a rhoddwyd ei weddillion i orffwys ym mynwent Salem, Fforddlas.

Cyhoeddwyd cyfrol goffa iddo ym 1936: Bywyd a Chan y Diweddar Barch Tomos Efans, Fforddlas, Glan Conwy gan J Gwyddno Williams, Llanefydd.

Cyfeiriadau

The contents of this page are sourced from Wikipedia article. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
Lists
Tomos Efans is in following lists
comments so far.
Comments
From our partners
Sponsored
Tomos Efans
arrow-left arrow-right instagram whatsapp myspace quora soundcloud spotify tumblr vk website youtube pandora tunein iheart itunes