peoplepill id: sion-jobbins
SJ
United Kingdom
7 views today
8 views this week
Siôn Jobbins
Author and academic

Siôn Jobbins

The basics

Quick Facts

Intro
Author and academic
A.K.A.
Siôn T. Jobbins Sion Jobbins
Gender
Male
Age
56 years
Education
Aberystwyth University
The details (from wikipedia)

Biography

Awdur, gwleidydd ac academydd ydy Siôn Jobbins (ganwyd 16 Chwefror 1968). Mae'n gydolygydd y cylchgrawn Cambrian Magazine sy'n gylchgrawn cenedlaethol, annibynnol Saesneg. Ar hyn o bryd mae'n Swyddog Datblygu'r Gyfraith, Gwleidyddiaeth, Gwyddorau Cymdeithasol, ac Athroniaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Ei weledigaeth ef oedd Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth a sefydlwyd ganddo yn 2013; sefydlwyd gorymdeithiau tebyg mewn sawl tref yn dilyn hynny, gan gynnwys Pwllheli, Caerfyrddin a Chaergybi.

Awdur

Ymhlith y llyfrau mae wedi'u hysgrifennu mae The Welsh National Anthem a'r gyfres The Phenomenon of Welshness: 'How Many Aircraft Carriers Would an Independent Wales Need?' ac 'Is Wales Too Poor to Be Independent?'

Yn ei lyfrau gwleidyddol mae Siôn Jobbins weithiau'n troedio'r ffin denau rhwng pryfocio a chythruddo. Yn The Phenomenon of Welshness mae'n sôn am Frad y Llyfrau Gleision, dyfeisio Dydd Santes Dwynwen, radio answyddogol Cymraeg y 1960au, yr angen am brotestiadau iaith, Cymreictod cyfnewidiol Caerdydd ac Abertawe, a'r posibilrwydd o gael teulu brenhinol Cymreig newydd.

Mae'n olygydd toreithiog ar yr Wicipedia Cymraeg, a'i syniad ef, yn Ebrill 2018, oedd #wici365, lle mae awduron yn ceisio creu un erthygl y dydd.

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

The contents of this page are sourced from Wikipedia article. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
Lists
Siôn Jobbins is in following lists
comments so far.
Comments
From our partners
Sponsored
Credits
References and sources
Siôn Jobbins
arrow-left arrow-right instagram whatsapp myspace quora soundcloud spotify tumblr vk website youtube pandora tunein iheart itunes