peoplepill id: robin-ddu-ap-siencyn-bledrydd
RDASB
3 views today
4 views this week
Robin Ddu ap Siencyn Bledrydd
Poet

Robin Ddu ap Siencyn Bledrydd

The basics

Quick Facts

Intro
Poet
Work field
Gender
Male
The details (from wikipedia)

Biography

Un o Feirdd yr Uchelwyr oedd Robin Ddu ap Siencyn Bledrydd neu Robin Ddu ap Siencyn neu Robin Ddu Ddewin (fl. 1440 – 1470). Roedd yn frodor o Ynys Môn (amrywiad arall ar ei enw yw Robin Ddu o Fôn).

Bywgraffiad

Ychydig a wyddys am fywyd y bardd ei hun ar wahân i'r ffaith ei fod yn frodor o Fôn ac iddo ganu i rai o brif deuluoedd Gogledd Cymru tua chanol y 15g.

Cedwir tua 90 o gywyddau a briodolir iddo fo ac eraill, ond mae rhai ohonynt yn fwy tebygol o fod yn waith Dafydd Llwyd o Fathafarn, oedd yn adnabod Robin Ddu. Fel Dafydd Llwyd, canai Robin Ddu gerddi brud sy'n perthyn i draddodiad y Canu Darogan a fu'n arbennig o ffyniannus yng nghyfnod Rhyfeloedd y Rhosynnau pan ddisgwylid y Mab Darogan. Fel sawl brudiwr arall, cefnogai Robin Ddu y Tuduriaid a phleidiodd achos Owain Tudur. Mewn un o gerddi Dafydd Llwyd ceir awgrym o anghydfod rhwng y ddau fardd ynglŷn â dehongli un o'r daroganau. Sut bynnag y bu am hynny, cafodd Robin Ddu enw fel dewin a cheir sawl traddodiad amdano.

Canodd Robin Ddu i rai o deuluoedd mawr y gogledd, yn cynnwys teulu Griffith, y Penrhyn a theulu'r Gloddaeth. Yn Oes y Tywysogion, Gloddaeth oedd un o'r "trefi" canoloesol pwysicaf yng nghwmwd y Creuddyn, cantref Rhos. Yn ôl tradoddiad, sefydlwyd plasdy yno gan un Iorwerth Goch o'r Creuddyn, efallai yn y 13g. Roedd ei ddisgynydd Gruffudd ap Rhys ap Gruffudd yn byw yno ym 1448. Yn y flwyddyn honno collodd saith o'i blant (pum mab a dwy ferch) i'r Pla. Canodd Robin Ddu farwnad deimladwy i'r saith ynghyd.

Cyfeiriadau


The contents of this page are sourced from Wikipedia article. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
Lists
Robin Ddu ap Siencyn Bledrydd is in following lists
comments so far.
Comments
From our partners
Sponsored
Credits
References and sources
Robin Ddu ap Siencyn Bledrydd
arrow-left arrow-right instagram whatsapp myspace quora soundcloud spotify tumblr vk website youtube pandora tunein iheart itunes