Robert Davies
Quick Facts
Biography
Bardd a beirniad llenyddol o Sir Ddinbych, gogledd-ddwyrain Cymru, oedd Robert Davies (1769 – 1 Rhagfyr 1835), a adnabyddir fel rheol wrth yr enw Bardd Nantglyn. Roedd yn llenor dylanwadol a fu mewn bri trwy'r rhan fwyaf o'r 19g. Fe'i cofir yn bennaf am ei gerddi ysmala, dychanol, ei Ieithiadur, a'r llinell enwog "Beibl i bawb o bobl y byd".
Bywgraffiad
Fel y mae ei enw barddol yn awgrymu, brodor o Nantglyn, ger Dinbych, oedd y bardd. Ar ôl prentisio fel teiliwr yn ddyn ifanc, bu'n grydd a clochydd wrth ei grefft.
Roedd yn eisteddfodwr brwd yn y cyfnod pan drefnai'r Gwyneddigion eisteddfodau rhanbarthol yng ngogledd Cymru. Enillodd wobr yn Eisteddfod y Gwyneddigion Caerwys yn 1798 gydag awdl wladgar. Fel canlyniad cafodd ei wahodd i gyfrannu o fwrlwm llenyddol Llundain ac am gyfnod fe'i apwyntiwyd yn fardd swyddogol y Gymdeithas, ond dychwelodd i'w bentref genedigol yn 1804 i fod gartref gyda'i deulu. Bu farw yno yn 1835.
Gwaith llenyddol
Roedd ei gyfrol o ramadeg, Ieithiadur neu Ramadeg Cymraeg (1808) yn llyfr hynod boblogaidd yn hanner cyntaf y 19g; cafodd yr adran ar reolau Cerdd Dafod ddylanwad mawr ar feirdd y cyfnod.
Cyhoeddodd sawl cywydd ac awdl yn y cofnodolion cyfoes, ac un gyfrol o gerddi, sef Dilïau Barddas.
Fel beirniad eisteddfodol roedd yn ffigwr adnabyddus, yn enwedig yng ngogledd Cymru. Ochrodd gyda William Owen Pughe i farnu awdl ddadleuol Edward Hughes (Y Dryw) ar 'Elusengarwch' yn Eisteddfod Dinbych, 1818, gan dynnu nyth cacwn am ei ben am gyfnod.
Llyfryddiaeth
- Ieithiadur neu Ramadeg Cymraeg (Caer, 1808; sawl argraffiad arall wedyn, e.e. Thomas Gee, Dinbych, 1818)
- Dilïau Barddas