peoplepill id: richie-thomas-1
RT
United Kingdom
2 views today
2 views this week
Richie Thomas
Welsh tenor

Richie Thomas

The basics

Quick Facts

Intro
Welsh tenor
Work field
Gender
Male
Birth
Place of birth
Penmachno, Conwy County Borough, Wales, United Kingdom
Death
Age
82 years
Residence
Penmachno, Conwy County Borough, Wales, United Kingdom
Awards
National Eisteddfod of Wales
 
The details (from wikipedia)

Biography

Clawr albwm Goreuon Richie Thomas (Tenor)

Canwr o Gymro oedd Richie Thomas (1906 – Medi 1988). Fe'i ystyriwyd yn un o denoriaid mwyaf naturiol dawnus Cymru. Ganed ef yn Eirianfa, Penmachno, ger Betws-y-Coed. Bu'n arwain y canu yn ei gapel am dros 50 mlynedd.

Gyrfa

Melin Wlân Penmachno lle bu Richie Thomas yn 1952 (nid Richie sydd yn y llun)
Capel Wesleaidd Bethania, Penmachno, lle bu Richie Thomas yn godwr canu am ddegawdau

Roedd yn 47 oed pan ddaeth i amlygrwydd cyhoeddus trwy ennill y Wobr y Rhuban Glas yn Eisteddfod Genedlaethol y Rhyl 1953. O hynny ymlaen bu ei fywyd yn un gyfres hir o gyngherddau a recordiadau; ond daliodd i weithio fel rheolwr melin wlân hyd ei ymddeoliad. Roedd yn godwr canu yn ei gapel, Bethania, am dros 50 mlynedd.

Roedd Thomas yn Rheolwr Melin Wlân wrth ei alwedigaeth. Gwrthododd Richie, sy’n enwog am ganeuon fel Elen Fwyn ac Yr Hen Rebel, gynnig i ymuno â chwmni Opera Sadler’s Wells yn ogystal â chanu yn Unol Daleithiau America.

Ymhlith uchafbwyntiau gyrfa Richie Thomas oedd ennill yr unawd tenor yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ym 1951; ennill y Rose Bowl yng ngŵyl Gerdd Ryngwladol Blackpool, 1952, allan o 250 o gystadleuwyr, a chipio'r Rhuban Glas yn Eisteddfod Genedlaethol y Rhyl, 1953.

Recordiodd 10 o recordiau ar label Qualiton, ac yna recordiodd i labeli Welsh Teledisc a Cambrian cyn recordio dwy LP i gwmni Sain ym 1974 ac 1977.

Plac

Dadorchuddiwyd plac iddo gan Arthur, un o'i feibion, ar ei hen gartref, 'Eirianfa' ym Medi 2012 gyda chyngerdd yn ddilyn gan y canwr lleol, Trebor Edwards a Band Penmachno.

Disgograffi

Cyhoeddodd Richie Thomas o leiaf 20 record yn ystod neu wedi ei yrfa gyda'r nifer helaeth yn senglau a rhai albwm ac un CD Goreuon wedi ei farwolaeth.

Senglau

  • I Achub Hen Rebel Fel Fi / Hen Ffon Fy Nain Maimie Noel Jones yn cyfeilio ar y piano; Sengl 10", 78 RPM, Qualiton RD 3132 1958
  • Arafa Don / Hen Groesffordd y Llan Sengl 7", Recordiau Qualiton WSP 5051 1958
  • Dros Bechadur / O Nefol Amen Sengl 10", 78 RPM Recordiau Qualiton RD. 3139 1958
  • Y Bugail / Ple'r Aeth Yr Amen Sengl 7", Recordiau Qualiton WSP 5055 1959
  • I Achub Hen Rebel Fel Fi / Hen Ffon fy Nain Sengl 7", Recordiau Qualiton, WSP 5081 1960
  • Gems From The Welsh Opera Blodwen Beti Wyn Jones a Richie Thomas (3 fersiwn o'r gwasgiad) Welsh Teldisc, TEP 817 1963
  • Yn Canu Emynau'r Diwygiad Sengl 7" (3 fersiwn o'r gwasgiad) Welsh Teldisc TEP 825 1963
Caneuon: A1 Y Gwr wrth Ffynnon Jacob; A2 Ar Galfaria; B1 Pardwn yn y Gwaed; B2 A Glywaist Di Bechadur 1963
  • Favourite Songs Of Wales Richie Thomas a Beti Wyn Jones Sengl 7" (dau fersiwn wedi gwasgu) Welsh Teldisc TEP 818 1963
Caneuon: A1 Yr Hen Gerddor (The Old Minstrel), A2 I Achub Hen Rebel fei Fi (The Rebels Lament) Soprano Songs, B1 Nant y Mynydd (The Mountain Stream), B2 Cartref (My Homeland).
  • Hen Emynau Cymru (Old Hymns Of Wales) EP 7", Welsh Teldisc TEP 839 1964
Caneuon: A Glywaist Ti Son, A2 Mi Glywaf Dyner Lais; B1 Ust Gwrandewch, B2 Hardd Rhosyn Saron.
  • Songs Of The Welsh Tenor EP 7", Welsh Teldisc TEP 828 1964
Caneuon: A1 Bugail Aberdyfi, A2 Mentra Gwen; B1 Galwad y Tywysog, B2 O Na byddai'n Haf O Hyd.
  • Yn Canu Anfarwol Emynau = Immortal Welsh Hymns EP 7", Welsh Teldisc TEP 845 1965
Caneuon: A1 Cof am y Cyfiawn Iesu, A2 Ar y Mynydd gyda'r Iesu; B1 Duw sy'n Maddau, B2 Cofio'r Gwaed.
  • Richie Thomas Yn Canu EP 7", Recordiau Cambrian CEP 412 1968
Caneuon: A1 Pwy fydd yma Mhen Can Mlynedd, A2 Rwyf yma yn Mynch Ofni; B1 Hen Feibl Mawr fy Mam, B2 Yn Ymyl y Groes.
  • Richard Rees, Richie Thomas – Hen Ganeuon Cymru EP 7", Recordiau Cambrian CEP 407 1968
Caneuon: A1 Aros mae'r Mynyddau Mawr, A2 Bwthyn Bach melyn fy Nhad; B1 Mae Cymru'n Barod (Duet)
  • Richie Thomas Yn Canu EP 7", Recordiau Cambrian CEP 415 1968
Caneuon: A1 Y Galw, A2 Brethyn Cartref; B1 Serenâd, B2 O Iesu Mawr rho D'anian Bur.
  • Y Galw Sengl 7", Recordiau Qualiton WSP 5062 blwyddyn anhysbus
Caneuon: Ochr B: Swn Cawodydd
Hen Brocer Bach Gloyw Fy Nain Sengl 7", Recordiau Qualiton WSP 5061 blwyddyn anhysbus
Caneuon: Ochr B: O Fryniau Caersalem

Recordiau Hir

  • Golomen Wen Albwm 10", 33 ⅓ RPM, [[Recordiau Qualiton (3 gwasgiad gwahanol) QMP 2024 1959
Caneuon: A1 Y Golomen Wen, A2 Graig Yr Oesoedd, A3 Rhosyn Saron, A4 Mi Glywaf Dyner Lais; B1 Baner ein Gwlad, B2 Y Fam a'i Baban, B3 Ust, Gwrandewch, B4 Ar ei Ben Bo'r Goron.
  • Yr Hen Rebel Albwm LP, Recordiau Sain SAIN 1013D 1974
Caneuon: A1 Cartrefi Gwynion Cymru, A2 Cartrefle, A3 Elen Fwyn, A4 Pa Bryd Ca' i fynd Adre'n Ol?, A5 Carol (Eirinwg), A6 Cannwyll Fy Llygad, A7 Yr Hen Rebel; B1 Llwybr yr Wyddfa, B2 Duw A Digon, B3 Carol (Bethlehem), B4 Y Ddafad Golledig, B5 Cofio'r Groes, B6 Bore'r Geni, B7 Mai.
  • Cartre' Fy Nghalon Albwm LP, Recordiau Sain SAIN 1081D 1977
Caneuon: A1 Y Gân Orchfygol, A2 Mae D'eisiau di Bob Awr, A3 Cartre' Fy Nghalon, A4 Mab Afradlon, A5 Carol Gŵr y Llety, A6 Regent Square, A7 Darlun fy Mam; B1 Mi Glywaf Dyner Lais, B2 Bro Hiraethog, B3 Iesu Annwyl, B4 Dusseldorf, B5 Mi Gerddaf Gyda Thi, B6 Y Gardotes Fach, B7 Ffaeleddau fy Mywyd
  • Caneuon Cynnar Richie Thomas Casét, Albwm, Recordiau Tryfan (is-label o Sain TRF C309 1989
Caneuon: A1 A Glywaist Ti Sôn?, A2 O Nefol Amen, A3 Y Gŵr wrth Ffynnon Jacob, A4 Cof Am y Cyfiawn Iesu, A5 Yr Hen Rebel, A6 Hen Ffon fy Nain, A7 O Paradiso!, A8 Sound An Alarm, A9 Galwad y Tywysog; B1 Back To Sorrento, B2 Nos Gân, B3 Cymru'n Barod, B4 Somewhere a Voice is Calling, B5 Arafa Don, B6 Ust, Gwrandewch, B7 Baner Ein Gwlad.
The contents of this page are sourced from Wikipedia article. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
Lists
Richie Thomas is in following lists
comments so far.
Comments
From our partners
Sponsored
Credits
References and sources
Richie Thomas
arrow-left arrow-right instagram whatsapp myspace quora soundcloud spotify tumblr vk website youtube pandora tunein iheart itunes