peoplepill id: rhys-thomas-10
RT
Wales
7 views today
7 views this week
Rhys Thomas
Welsh doctor and politician

Rhys Thomas

The basics

Quick Facts

Intro
Welsh doctor and politician
Places
Work field
Gender
Male
Place of birth
Carmarthenshire, Wales, United Kingdom
The details (from wikipedia)

Biography

Uwch anesthetydd ymgynghorol yn Ysbyty Glangwili, Sir Gaerfyrddin, dyfeisiwr a gwleidydd yw Dr Rhys Thomas (enw llawn Glanville Owen Rhys Thomas) a ddaeth i'r amlwg ym Mawrth 2020, yn ystod wythnosau cyntaf y Gofid Mawr yng Nghymru.

Mae Dr Rhys Thomas wedi gwasanaethu mewn rhyfel fel uwch swyddog meddygol yn y Gatrawd Parasiwt. Gwasanaethodd saith taith ar ddyletswydd yn Afghanistan, cyn ymddeol i redeg ei fferm deuluol yn Sir Gaerfyrddin.

Drwy ddefnyddio ei brofiad yn Afghanistan fe arweiniwyd gyda Dr Dindi Gill sefydliad Gwasanaeth Ambiwlans Awyr newydd Cymru. Sicrheuodd Rhys Thomas bod pob hofrenydd wedi'i gyfarparu gyda'r dechnoleg fwyaf diweddar sy'n gallu achub bywydau. Mae'r gwasanaeth wedi ei gymeradwyo yn fyd eang. Meddai "fe wnaethon ni benderfynu cyfarparu pob hofrennydd gyda'i uned gofal dwys ei hun. Trwy hynny fe wnaethon ni, ar gyfartaledd, achub bywyd ychwanegol y dydd."

Daeth Dr Rhys Thomas yn aelod o Orsedd Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2018 am ei gyfraniad i'r byd iechyd a'r gymdeithas.

Mae Rhys Thomas yn seiclwr ac athletwr brwd a bu'n cystadlu yn Ironman Cymru yn Ninbych-y-pysgod, ac Ironman y Byd yn Hawaii.

Yn ogystal fe wnaeth Dr Rhys Thomas sefyll ar gyfer Plaid Cymru fel aelod Seneddol ar gyfer etholaeth Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro yn etholiad cyffredinol 2019. Fe wnaeth derbyn 3633 o bleidleisiau a dod yn drydydd, gyda Simon Hart (Ceidwadwyr) yn cadw ei sedd.

Dyfeisio 'Wyntiedydd Argyfwng COVID'

Ar gais Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, dyfeisiodd Rhys Thomas 'Wyntiedydd Argyfwng COVID' (Covid Emergency Ventilator) dros gyfnod o dridiau. Defnyddiwyd y gwyntiedydd cyntaf ar glaf yn Llanelli ar 21 Mawrth, a gwellodd y claf, gan adael yr ysbyty ychydig yn ddiweddarach. Yn wahanol i'r gwyntiedyddion arferol, nid yw'n angenrheidiol i nyrs fod o fewn cyrraedd, neu olwg y claf, ac mae'r peiriant yn glanhau'r aer yn yr ystafell ar ei liwt ei hun, gan ffiltro gronynnau mân fel firysau ohono ac yn helpu'r claf i anadlu.

Trodd Adam Price at gwmni bychan, teuluol o Rydaman, sef Maurice Clarke of CR Clarke & Co, gan ofyn iddynt gynhyrchu'r dyfais newydd, a chytunodd y cwmni; o fewn dim roedd Adam Price wedi cael sêl bendith Llywodraeth Cymru i fynd ati i'w creu.

Cyn hynny, roedd gan Gymru gyfanswm o 100 o wyntedyddion; ar 25 Mawrth, credwyd y gellid cynhyrchu 100 y dydd o'r gwyntiedyddion newydd, a hynny yng Nghymru. Roedd 80 o’r peiriannau ar 23 Mawrth ar eu ffordd i’r pedwar ysbyty oedd gyda'r nifer fwyaf o ddioddefwyr Covid-19. Yng Nghaerdydd, Casnewydd, Abertawe a Llanelli.

Yn ôl Dr Thomas, "Wneith y gwyntiedydd argyfwng fyth ddisodli'r gwyntiedyddion presennol yn yr unedau gofal dwys; mae fy nyfais i'n arbenigol, ac yn targedu COVID-19, ac yn cael ei gyflwyno i'r claf cyn iddo gyrraedd yr uned gofal dwys. Mae hefyd yn rhyddhau'r nysrus i wneud gwaith arall, yn hytrach na threulio eu hamser yn cadw golwg ar y peiriant."

Gweler hefyd

  • Anesthetig lleol.
The contents of this page are sourced from Wikipedia article. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
Lists
Rhys Thomas is in following lists
comments so far.
Comments
From our partners
Sponsored
Credits
References and sources
Rhys Thomas
arrow-left arrow-right instagram whatsapp myspace quora soundcloud spotify tumblr vk website youtube pandora tunein iheart itunes