peoplepill id: owen-evans-8
OE
United Kingdom
4 views today
4 views this week
Owen Evans
Chief Executive of S4C

Owen Evans

The basics

Quick Facts

Intro
Chief Executive of S4C
Work field
Gender
Male
Place of birth
Aberystwyth, United Kingdom
Age
56 years
The details (from wikipedia)

Biography

Gwas sifil a gweithredwr busnes yw Gwyn Owen Evans (ganwyd Tachwedd 1968). Cychwynnodd fel Prif Weithredwr S4C ar 1 Hydref 2017.

Bywyd cynnar ac addysg

Fe'i magwyd yn Aberystwyth ac aeth i Ysgol Penweddig, Aberystwyth cyn graddio mewn economeg ym Mhrifysgol Abertawe.

Gyrfa

Bu'n gweithio am 10 mlynedd gyda BT, a chododd i fod yn Bennaeth Cysylltiadau â'r Llywodraeth, Llywodraeth Ddatganoledig a Llywodraeth Leol yng Ngwasanaethau Byd-eang BT. Rhwng 2008 a 2010 roedd yn gyfarwyddwr elusen Busnes yn y Gymuned yng Nghymru.

Ymunodd â Llywodraeth Cymru yn 2010 fel Cyfarwyddwr Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes. Yn 2012 daeth yn Gyfarwyddwr Cyffredinol yr Adran Addysg a Sgiliau ac ar 1 Gorffennaf 2015, daeth yn Ddirprwy Ysgrifennydd Parhaol ar gyfer Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus.

Mae’n gyn-aelod o Fwrdd yr Iaith, Prifysgol Cymru, Casnewydd a Bwrdd Cynghorol Datblygu Diwydiannol Cymru. Mae'n aelod o fwrdd ymgynghorol elusen Marie Curie yng Nghymru.

Ar 15 Mai 2017 cyhoeddwyd ei fod wedi ei benodi fel Prif Weithredwr newydd S4C yn olynu Ian Jones.

Cyfeiriadau

  1.  Cyhoeddi Prif Weithredwr newydd S4C. S4C (15 Mai 2017). Adalwyd ar 16 Mai 2016.
  2.  Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol - Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus. Llywodraeth Cymru (7 Ionawr 2016). Adalwyd ar 16 mai 2017.
The contents of this page are sourced from Wikipedia article. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
Lists
Owen Evans is in following lists
comments so far.
Comments
From our partners
Sponsored
Credits
References and sources
Owen Evans
arrow-left arrow-right instagram whatsapp myspace quora soundcloud spotify tumblr vk website youtube pandora tunein iheart itunes