peoplepill id: osbert-fynes-clinton
OF
United Kingdom
2 views today
2 views this week
Osbert Fynes-Clinton
Welsh linguist

Osbert Fynes-Clinton

The basics

Quick Facts

Intro
Welsh linguist
A.K.A.
Osbert Henry Fynes-Clinton
Gender
Male
Birth
Place of birth
Barlow Moor, United Kingdom
Age
72 years
Education
St John's College
The details (from wikipedia)

Biography

Un o dafodieithegwyr cynnar y Gymraeg oedd Osbert Henry Fynes-Clinton (9 Tachwedd 1869 – 9 Awst 1941). Hanodd Fynes-Clinton o Fanceinion, yn fab i reithor Barlow Moor ger Didsbury. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Sant Ioan, Rhydychen, lle astudiodd ieithoedd modern. Bu'n athro Ffrangeg yn King Edward's School, Aston, Birmingham tan 1904, pryd penodwyd yn athro Ffrangeg yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Arhosodd yn ardal Bangor hyd ei farwolaeth yn 1941, ac roedd ei ddiddordeb yn nhafodiaith yr ardal yn dyddio o'r adeg honno.

Ei brif waith yw geiriadur tafodiaith Bangor a'r cylch The Welsh vocabulary of the Bangor district a gyhoeddwyd yn 1913. Roedd wedi'i seilio ar waith maes ar y dafodiaith honno, sy'n perthyn i'r Wyndodeg, a gyflawnwyd rhwng 1904 a 1912. Defnyddiodd Fynes-Clinton siaradwyr y dafodiaith leol a anwyd rhwng 1835 a 1859 o Fangor, Pentir, Aber a Llanfairfechan. Mae'r gwaith yn eithriadol ymysg tafodieitheg y cyfnod am ei drylwyredd a'i gywirdeb gwyddonol.

Llyfryddiaeth

Clasur Fynes-Clinton:

  • The Welsh vocabulary of the Bangor district (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1913; adargraffwyd Llanerch, 1995)
The contents of this page are sourced from Wikipedia article. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
Lists
Osbert Fynes-Clinton is in following lists
comments so far.
Comments
From our partners
Sponsored
Credits
References and sources
Osbert Fynes-Clinton
arrow-left arrow-right instagram whatsapp myspace quora soundcloud spotify tumblr vk website youtube pandora tunein iheart itunes