peoplepill id: noel-lloyd
NL
United Kingdom Wales
6 views today
9 views this week
Noel Lloyd
Academydd a mathemategydd o Gymru; cyn is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth

Noel Lloyd

The basics

Quick Facts

Intro
Academydd a mathemategydd o Gymru; cyn is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth
A.K.A.
Yr Athro Noel Lloyd
Work field
Gender
Male
Place of birth
Wales
Age
78 years
The details (from wikipedia)

Biography

Academydd yw'r Athro Noel Glynne Lloyd CBE (ganwyd Rhagfyr 1946) a fu'n Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth o 2004 tan ei ymddeoliad yn 2011. Cyn hynny, bu'n Bennaeth yr Adran Fathemateg, yn Ddeon Gwyddoniaeth, yn Is-Brifathro ac o 1999 hyd 2004, yn Gofrestrydd ac yn Ysgrifennydd y Brifysgol. Bu'r Athro Lloyd yn un o aelodau annibynnol y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru (y 'Comisiwn Silk') - a gyflwynodd ei adroddiadau i Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn 2012 ac yn 2014.

Mae wedi bod yn Gomisiynydd Penodiadau Barnwrol ers 2012.

Roedd yn aelod o fwrdd Jisc o 2012 i 2014 a chadeirydd Masnach Deg, Cymru o 2011 hyd 2017. Bu hefyd yn gadeirydd HPC Cymru (menter gydweithredol rhwng holl brifysgolion Cymru).

Rhwng 2008 a 2011, bu'r Athro Lloyd yn gadeirydd Addysg Uwch Cymru ('Prifysgolion Cymru' bellach) ac yn un o Is-lywyddion Prifysgolion DU (Universities UK). Gwasanaethodd ar fyrddau nifer o gyrff eraill, traws-DU. Graddiodd mewn Mathemateg o Brifysgol Caergrawnt a chwblhaodd ei ddoethuriaeth yno; bu'n Gymrawd Ymchwil yng Ngholeg Sant Ioan. Mae ganddo hefyd ddiploma Coleg Cerdd y Drindod, Llundain.

Mae'n flaenor yng Nghapel y Morfa, Aberystwyth, a bu'n ysgrifennydd yr eglwys o 1989 hyd 2004. Mae nawr yn gadeirydd Adran Eglwys a Chymdeithas Eglwys Bresbyteraidd Cymru.

Dywedodd Syr Emyr Jones Parry, Llywydd Prifysgol Aberystwyth:

Mathemategydd

Ei ddiddordebau ymchwil yw Systemau Aflinol, ac mae wedi cyhoeddi nifer sylweddol o bapurau ar Hafaliadau Differol Aflinol. Bu'n Athro Ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth o 2011 hyd 2016 ac mae nawr yn Athro Emeritws. Bu hefyd yn olygydd y Journal of the London Mathematical Society o 1983 tan 1988.

Gwobrau

Dyfarnwyd CBE iddo yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn 2010 am ei wasanaeth i Addysg Uwch yng Nghymru. Mae'n Gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru ac fe'i urddwyd yn Aelod Anrhydeddus o'r Orsedd yn 2012.

Cyfeiriadau

The contents of this page are sourced from Wikipedia article. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
Lists
Noel Lloyd is in following lists
comments so far.
Comments
From our partners
Sponsored
Noel Lloyd
arrow-left arrow-right instagram whatsapp myspace quora soundcloud spotify tumblr vk website youtube pandora tunein iheart itunes