Luis David Palacios
Quick Facts
Biography
Mae Luis David Palacios (ganwyd 1983 yn Sinaloa, Mecsico) yn fardd, ysgrifennwr, cyfieithydd, cerddor a golygydd Mecsicanaidd sydd yn arbenigo yn astudiaethau cerddorol.
Mae wedi ennill nifer o wobrau yn cynnwys prif wobr Mecsico am farddoniaeth - Premio Nacional de Poesía Raúl Rincón Meza yn 2019 am ei lyfr Sigo siendo Miles Davis (Dal i ddilyn Miles Davis).
Mae hefyd wedi ennill y wobr Juegos Florales Nacionales Universitarios 2015 am ei lyfr Un árbol donde el sueño (Coeden ble mae’n cysgu).
Mae ei waith wedi’i gyfieithu i Gymraeg, Saesneg, Rwmaneg, Portwgeeg ac Eidaleg ac mae wedi perfformio ei farddoniaeth mewn nifer fawr o wledydd yn cynnwys Lloegr, Colombia, Ecuador a Nicaragua. Yn 2017 ymwelodd â Chymru i gymryd rhan yng Ngŵyl Farddoniaeth Ryngwladol Gogledd Cymru.
Mae hefyd yn cyflwyno podlediad La historia hablada del jazz am hanes cerddoriaeth Jazz.
Llyfryddiaeth
- Entrenamiento rítmico y auditivo 1. Palacios, Luis David, Rhythmus Ediciones, Mecsico, 2018
- Armonía contemporánea. La música tonal. Palacios, Luis David, Rhythmus Ediciones, Mecsico, 2017
- Un árbol donde el sueño. Palacios, Luis David, Valparaíso-Mexico Ediciones, Mecsico, 2016
- Armonía contemporánea. Volumen 3, Palacios, Luis David,Fermatta publicaciones, Mecsico, 2010
- Armonía contemporánea. Volumen 4, Palacios, Luis David,Fermatta publicaciones, Mecsico, 2010
- Armonía contemporánea. Volumen 1, Palacios, Luis David,Fermatta publicaciones, Mecsico, 2009
- Armonía contemporánea. Volumen 2, Palacios, Luis David,Fermatta publicaciones, Mecsico, 2009