peoplepill id: lorna-prichard
LP
8 views today
8 views this week
The basics

Quick Facts

Work field
Gender
Female
The details (from wikipedia)

Biography

Mae Lorna Prichard (ganed 1987) yn gyn-newyddiadurwraig sydd nawr yn gweithio'n llawrydd fel comediwraig, actores, trefnydd, newyddiaduwraig a pherson cysylltiadau cyhoeddus.

Bywgraffiad

Magwyd hi yn Abergeleac fe'i haddysgwyd yn Ysgol Emrys ap Iwan ac yna yng Ngholeg Llandrillo, cyn graddio mewn Saesneg Iaith a Llên (BA) o Brifysgol Rhydychen. Mae wedi gweithio fel newyddiadurwraig i'r BBC, Trinity Mirror Group PLC ac ITV.

Mae Lorna yn byw yng Nghaerdydd ond yn wreiddiol o'r Gogledd. Daeth yn ddigrifwr wedi dau ddigwyddiad sylweddol a newidiodd ei bywyd. Y cyntaf oedd iddi ddisgyn lawr clogwyn 12 troedfedd yn y Peak District yn Swydd Derby, Lloegr ym mis Hydref 2012. Malwyd ei ffêr a bu mewn ysbyty am wythnosau. Cafodd ddwy lawdriniaeth fawr o fewn 10 niwrnod. Ni wellodd y ffêr fyth yn llawn, yn rhannol oherwydd iddi ddarganfod yn 2013 fod ganddi osteoarthritis.

Yn Ionawr 2017, sylweddolodd ei bod yn cael chwalfa nerfau ac yn dioddef o iselder a gor-bryder. Doedd hi ddim yn gallu man-siarad gyda chyfeillion a chydweithwyr. Credai fod pwysau gwaith, tor-perthynas a thrafferthion gyda'r ffêr wedi'r gwymp i gyd wedi bod yn ffactor yn y 'breakdown'. Fel rhan o'r therapi, ymunodd â chwrs comedi chwech wythnos ym Mryste. Dywed fod bod yn newyddiaduwraig yn golygu celu teimladau er ei bod yn dod i gysylltiad trwy ei gwaith gyda phobl eraill oedd yn mynd drwy gyfnodau a digwyddiadau anodd iawn. Mae'n crediniol fod y broses o fod ar lwyfan a bod yn hollol agored a "noeth" am eich teimladau wrth berfformio comedi wedi bod yn gymorth iddi wella'n feddyliol.

Gyrfa Comedi a Pherfformio

Yn 2018 dechreuodd redeg nosweithiau comedi 'Howl' unwaith y mis yng nghanolfan Tramshed yng Nghaerdydd. Cynhelir gwahanol sesiynau comedi gan Howl gan gynnwys, yn 2018, ddathliad o Ddiwrnod Rhyngwladol Menywod a rhediad llawn yng Nghaeredin.

Mae wedi perfformio mewn amryw o leoliadau, gan gynnwys Gŵyl Caeredin a Gŵyl Gomedi Aberystwyth yn 2018.

Drama

Mae'n aelod o Gwmni Theatr Everyman. Mae wedi perfformio yn y ddrama gomedi ddu, Season’s Greetings a'r ddrama drasiedi Roegaidd, Medea.

Dolenni

Cyfeiriadau

The contents of this page are sourced from Wikipedia article. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
Lists
Lorna Prichard is in following lists
comments so far.
Comments
From our partners
Sponsored
Credits
References and sources
Lorna Prichard
arrow-left arrow-right instagram whatsapp myspace quora soundcloud spotify tumblr vk website youtube pandora tunein iheart itunes