peoplepill id: llywelyn-ap-gwilym-lygliw
LAGL
3 views today
3 views this week
Llywelyn ap Gwilym Lygliw

Llywelyn ap Gwilym Lygliw

The basics

Quick Facts

Work field
Gender
Male
The details (from wikipedia)

Biography

Bardd o Gymro oedd Llywelyn ap Gwilym Lygliw (fl. diwedd y 14g - dechrau'r 15g), a oedd yn perthyn i'r Llygliwiaid, teulu o feirdd y cysylltir eu henwau ag ardaloedd Powys a Meirionnydd.

Bywgraffiad

Ni wyddys dim o gwbl am hanes y bardd.Roedd yn perthyn i'r Llygliwiaid ond ni cheir ei enw ef nac eiddo ei dad yn yr achau.

Cerdd

Un gerdd yn unig o'i waith sydd ar glawr.Yn y rhan fwyaf o'r 24 test ohoni yn y llawysgrifau mae'n cael ei phriodoli i Siôn Cent (15) neu eglwyswr o'r enw Hywel Hir (7), ond ar sail nodweddion mydryddol ac ieithyddol y gerdd mae'r awdurdodaeth hynny yn cael ei gwrthod a thueddir i'w derbyn fel gwaith Llywelyn ap Gwilym Lygliw.

Prif bwnc y cywydd yw gweledigaeth o Uffern gan Pawl yn nhraddodiad cyfarwydd yr Oesoedd Canol lle mae gweledigaethau o'r math yn gyfrwng i rybuddio yn erbyn drychynfeydd y byd yr ochr arall i'r bedd sy'n disgwyl yr annuwiol.Rhagflaenir hyn gan fath o hanes mydryddol o'r Iachawdwriaeth yng Nghrist dros Bum Oes y Byd ac fe'i diweddir gydag adran sy'n disgrifio'r Saith Pechod Marwol a'r llwybr i'r Nefoedd.

Llyfryddiaeth

  • Rhiannon Ifans (gol.), Gwaith Gruffudd Llwyd a'r Llygliwiaid eraill (Aberystwyth, 2000).

Cyfeiriadau

The contents of this page are sourced from Wikipedia article. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
Lists
Llywelyn ap Gwilym Lygliw is in following lists
comments so far.
Comments
From our partners
Sponsored
Llywelyn ap Gwilym Lygliw
arrow-left arrow-right instagram whatsapp myspace quora soundcloud spotify tumblr vk website youtube pandora tunein iheart itunes