Lisa Jones
Quick Facts
Biography
Arbenigwraig iaith ac awdur yw Lisa Jones.
Mae Lisa wedi dysgu Cymraeg er mwyn rhoi'r iaith yn ôl i'w theulu. Astudiodd Lisa Almaeneg, Sbaeneg a Ffrangeg yn y coleg ac roedd hi'n byw yn yr Eidal am flwyddyn cyn dechrau dysgu Cymraeg. Ar ôl dysgu Cymraeg i Oedolion yng Ngholeg Gwent am dair blynedd dechreuodd hi redeg gwersi teilwredig i rieni. Mae Lisa nawr yn cyfuno gwaith achlysurol yn Llundain fel Hyffordwraig Cyswllt i Canning (yn dysgu Saesneg i bobl fusnes) â gwaith gwirfoddol i'w chymuned yn Aberhonddu, ble mae hi'n cynllunio a darparu gwersi Cymraeg sy'n cael eu teilwra ar gyfer rhieni ar y cyd gydag Ysgol y Bannau.Mae Lisa hefyd wedi defynuddio ei phrofiad o ddysgu ieithoedd gwahanol ei hun dros y blynyddoedd i ysgrifennu gwerslyfrau.
Cyhoeddiadau
Mae Jones wedi cyhoeddi nifer o gyfrolau gan gynnwys y canlynol;
- Welsh for Parents - A Learner's Handbook (2015)
- Welsh for Parents (2013)
Cyfeiriadau
- ↑ "www.gwales.com - 1784610755". www.gwales.com. Cyrchwyd 2019-11-19.
Gwybodaeth o Gwales |
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o fywgraffiad yr awdur Lisa Jones ar wefan Gwales, sef gwefan gan Cyngor Llyfrau Cymru. Mae gan yr wybodaeth berthnasol drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith. |