Kevin Davies
Quick Facts
Biography
Brodor o Sir Benfro yw Kevin Davies (ganwyd 26 Medi 1963) sy'n adnabyddus fel cyflwynydd radio a theledu Cymraeg.
Bywyd cynnar ac addysg
Addysgwyd Davies yn Ysgol y Preseli, Crymych a graddiodd mewn gradd BSc mewn Cyfrifeg o Brifysgol Caerdydd yn 1985. Roedd yn brif leisydd i'r grŵp roc trwm, Y Diawled.
Gyrfa cyflwyno
Mae wedi cyflwyno ar sawl raglen deledu ar S4C. Yn yr 1980au bu'n gyflwynydd ar y rhaglen i blant bach, Ffalabalam. Yn y 1990au cynnar cyflwynodd y rhaglen gerddoriaeth i bobl ifanc Syth. Cyflwynodd y cwis boblogaidd Jacpot rhwng 1993 a 1999. Yn 1995 cyflwynodd y gyfres Penwythnos Mawr. Bu hefyd yn gyflwynydd radio ar BBC Radio Cymru rhwng 1998 a 2008. Rhwng 2006 a 2008 bu'n gynhyrchydd teledu ar gyfer rhaglenni Planed Plant a Cyw.
Rhwng 2018-13 roedd yn Brif Weithredwr Fenter Iaith Rhondda Cynon Taf. Wedi hynny bu'n gynhyrchydd ar wasanaeth newyddion a chylchgrawn arlein, BBC Cymru Fyw.
Sefydlodd a bu am gyfnod yn rhedeg caffi yn maesdref Radur o Gaerdydd. Lleolwyd 'Caffe Ffa' ar 8A, Ffordd yr Orsaf, Radur.
Dolenni
- Kevin Davies ar Twitter
- Gwefan UK Gameshows