Jonathan Catherall
Quick Facts
Biography
Roedd Jonathan Catherall (1761 - 31 Gorffennaf 1833) yn ddiwydiannwr a dyngarwr Cymreig, ac yn un o wyrion llwyddiannus Jonathan Catherall yr hynaf (1689-1761), dyn a gymerodd ran bwysig yn natblygiad y diwydiant clai yn ardaloedd Bwcle a'r Wyddgrug yn Sir y Fflint yn ystod 18C. Roedd William Catherall hefyd yn un o'r wyrion llwyddiannus eraill.
Jonathan oedd yr ieuengaf o dri mab i John a Martha Catherall o'r Bwcle, Sir Fflint, ac wedi marw ei dad ar 7 Rhagfyr 1777, tra'n astudio'r gyfraith yn Llundain, dychwelodd Jonathan i dŷ ei fam i'w chynorthwyo gyda'r gwaith llestri pridd a sefydlwydd gan y teulu ers 17C. Yna, wedi marw ei fam yn 1792, bu'n bennaf gyfrifol am reolaeth a chynnydd helaeth y busnes.
Crefydd
Yn ystod 1792 hefyd y priododd Catherine Jones, merch i ficer Llannor a Deneio yn Sir Gaernarfon. Elent yn ól eu harfer i eglwys Penarlag hyd at 1785, pan benderfynodd Jonathan ymaelodi gyda'r Annibynnwyr, ac oherwydd y galw am grefydd diwygiedig yn y cyfnod hwn, bu llwyddiant ar waith yr enwadau newydd. Cymerodd Jonathan ran amlwg gyda sefydlu achosion yr Annibynnwyr yn Bagillt, Treffynnon a Bwcle. Sicrhaodd drwydded i gynnal cyrddau crefyddol yn ei dy, Hawkesbury House, a adeiladodd yn 1801, ac er iddo brofi sawl profedigaeth, prynodd ddarn o dir yn 1811 ac adeiladu capel arno ar ei draul ei hun. Gwasanaethodd hefyd fel casglwr ar ran Cymdeithas y Beibl Frutanaidd a Thramor yn Sir y Fflint.
Colledion
Gan i'w wraig farw yn 1807, ac i bump o'r wyth plentyn a anwyd iddynt farw'n ifanc, gan gynnwys dwy ferch yn eu dauddegau o'r dwymyn yn 1818, dim ond ei fab William gafodd oroesi gogyfer á pharhau'r gwaith. Yn 1819, daeth yntau yn bartner i'w dad yn y busnes, a llwyddodd y cwmni hyd at ddiwedd 19C.
Bu farw Jonathan ar 31 Gorffennaf 1833 a chladdwyd ef ym mynwent capel yr Annibynnwyr, Bwcle.
Ffynnonellau
- Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru, iv, t. 219, 237, 241-2;
- Thomas Cropper, Buckley and District. Historical, biographical, reminiscent (1923), t. 59-96, llun.