peoplepill id: john-wyn-ap-cadwaladr
JWAC
United Kingdom
2 views today
2 views this week
John Wyn ap Cadwaladr
Welsh politician

John Wyn ap Cadwaladr

The basics

Quick Facts

Intro
Welsh politician
A.K.A.
Siôn Wyn ap Cadwaladr Sion Wyn ap Cadwaladr
Work field
Gender
Male
Death
The details (from wikipedia)

Biography

Roedd Siôn Wyn ap Cadwaladr, bu farw tua 1589, yn uchelwr Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Meirionnydd o 1559 i 1563

Bywyd Personol

Hen blasdy'r Rhiwlas

Does dim cofnod o ba bryd yr anwyd Siôn Wyn ond roedd yn fab hynaf i Cadwaladr ap Robert ap Rhys o’r Rhiwlas. Ei fam oedd Jane ferch Meredydd ap Ieuan ap Robert o Wedir, Llanrwst.

Priododd Jane, ferch ac etifedd Thomas ap Robert ap Gruffydd ap Rhys, Llwyn Dedwydd, Llangwm. Bu iddynt 3 mab a 6 merch. Ei fab hynaf oedd Cadwaladr Wyn, a fabwysiadodd y cyfenw Price.

Siôn Wyn oedd yn gyfrifol am adeiladu hen blasty Tuduraidd y Rhiwlas a adeiladwyd yn wreiddiol ym 1574 ac a dymchwelwyd ym 1951.

Gyrfa gyhoeddus

Gwasanaethodd fel Aelod Seneddol Meirionnydd o 1559 i 1563; Siedwr Meirionnydd o 1564-1565; ynad heddwch o 1573; Uchel Siryf Meirionnydd o 1576 i 1577 ac eto o 1585 i 1586 ac fel dirprwy raglaw o 1587 hyd ei farwolaeth. Roedd gyrfa gyhoeddus Siôn Wyn wedi ei selio yn bennaf ar ei gysylltiadau teuluol ag ystadau Rug, Plas Iolyn a Gwydir yn hytrach nag ar sgiliau gwleidyddol, gweinyddol neu ddyfeisgarwch personol.

Noddwr Beirdd

Roedd Siôn Wyn, a’i dad Cadwaladr ap Rhys yn noddwyr amlwg i’r beirdd. Ymysg y beirdd a dderbyniodd lletygarwch yn Rhiwlas bu Gruffydd Hiraethog, William Llŷn, Simwnt Fychan, Owain Gwynedd, William Cynwal, Siôn Cent a Siôn Phylip.. Canodd Siôn Tudur gywydd yn gofyn i Siôn Wyn i roi dryll i Humphrey Thomas, Bodelwyddan a bu Ieuan Tew Ieuanc yn fardd Teulu'r Rhiwlas yng nghyfnod Siôn Wyn a Cadwaladr, ei fab.

Marwolaeth

Does dim sicrwydd am ddyddiad marwolaeth Siôn Wyn, ond ceir cyfeiriad ato fel y diweddar mewn dogfen ddyddiedig 1589.

Cyfeiriadau

Seddi'r cynulliad
Rhagflaenydd:
Elis Prys
Aelod Seneddol Meirionnydd
1559 – 1563
Olynydd:
Elis Prys
The contents of this page are sourced from Wikipedia article. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
Lists
John Wyn ap Cadwaladr is in following lists
comments so far.
Comments
From our partners
Sponsored
John Wyn ap Cadwaladr
arrow-left arrow-right instagram whatsapp myspace quora soundcloud spotify tumblr vk website youtube pandora tunein iheart itunes