John Tysul Jones
Quick Facts
Biography
Prifathro a llenor o Gymru oedd John Tysul Jones (1902 – Mai 1986).
Ar ôl mynychu Ysgol Uwchradd Llandysul, graddiodd mewn Cymraeg o Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, yn 1923, a derbyniodd MA yn 1959. Ymysg ei gyfeillion yn Aberystwyth yr oedd Waldo Williams (1904-1971) ac Idwal Jones (1895-1937). Bu'n athro Cymraeg ym Merthyr Tudful ac yn Abertawe, yn bennaeth adran yn Llandysul, ac yna'n brifathro Ysgol Uwchradd Fodern Henllan ac Ysgol Uwchradd Castell Newydd Emlyn (1957-67).
Priododd Mair Harford Evans o sir Gaerfyrddin, a chawsant un ferch.
Bu'n olygydd y gyfrol flynyddol Cyfansoddiadau a Beirniadaethau yr Eisteddfod Genedlaethol. Bu'n olygydd hefyd y cyfrolau Yr Athro Evan James Williams, 1903-1945 (Llandysul, 1971) ac Ar Fanc Siôn Cwilt: Detholiad o Ysgrifau Sarnicol (Llandysul, 1972).