peoplepill id: john-prydderch-williams
JPW
Wales
2 views today
2 views this week
John Prydderch Williams
Welsh poet

John Prydderch Williams

The basics

Quick Facts

Intro
Welsh poet
A.K.A.
Rhydderch o Fon
Places
Work field
Gender
Male
Birth
Place of birth
Llanddeusant, Anglesey, Isle of Anglesey, United Kingdom
Place of death
Rhyl, Denbighshire, Wales, United Kingdom
Residence
Rhyl, Denbighshire, Wales, United Kingdom
The details (from wikipedia)

Biography

Bardd a llenor Cymraeg oedd John Prydderch Williams (4 Tachwedd 1830 - 3 Medi 1868), a adnabyddid gan amlaf wrth ei enw barddol Rhydderch o Fôn. Roedd yn frodor o Ynys Môn.

Bywgraffiad

Ganwyd John Prydderch ym mhlwyf Llanddeusant, Môn ar y 4ydd o Dachwedd 1830. Cafodd addysg led dda yn ei ieuenctid, yn ôl safonau'r oes. Yn llanc ifanc, aeth yn brentis i frethynwr yn Llangefni. Symudodd oddi yno i'r Rhyl lle bu'n glerc yn y swyddfa bost.

Dechreuodd lenydda yn ifanc. Yn Eisteddfod Rhuddlan yn 1850, ac yntau'n ugain oed, roedd yn gyd-fuddugol â Gwyneddfardd ar y bryddest orau i'r "Llong Ymfudol". Cafodd waith wedyn yn swyddfa'r Traethodydd yn Nhreffynnon; cyfranodd nifer o erthyglau i'r cylchgrawn hwnnw a chyhoeddiadau Cymraeg eraill. Dychwelodd i'r Rhyl i gadw siop lyfrau.

Dewiswyd ef yn flaenor gyda'r Methodistiaid yn y Rhyl ac yn ysgrifennydd i Gyngor y Dref ac i'r canghennau lleol o Gymdeithas y Beiblau, y Gymdeithas Genhadol a Chymdeithas y Bywydfad. Fe'i benodwyd yn Ysgrifennydd Cyffredinol Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn 1864; golygodd Gyfansoddiadau arobryn Eisteddfod y Rhyl, 1863.

Bu farw ar y 3ydd o Fedi 1868, yn 37 oed, a chladdwyd ef ym mynwent y Rhyl.

Llyfryddiaeth

  • Rhydderch o Fôn, Cydymaith i'r Adroddwr. Cyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth.

Cyfeiriadau

The contents of this page are sourced from Wikipedia article. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
Lists
John Prydderch Williams is in following lists
comments so far.
Comments
From our partners
Sponsored
John Prydderch Williams
arrow-left arrow-right instagram whatsapp myspace quora soundcloud spotify tumblr vk website youtube pandora tunein iheart itunes