John Owen Griffith
Quick Facts
Biography
Bardd a beirniad oedd John Owen Griffith (1828 – 22 Tachwedd 1881), a gyhoeddai ei waith wrth yr enw Ioan Arfon. Roedd yn dad i'r bardd Robert Arthur Griffith (Elphin).
Bywgraffiad
Brodor o Gaernarfon, Gwynedd, a aned yn 1828 oedd Griffith. Ym more ei oes aeth i weithio fel chwarelwr yn Llanberis. Ar ôl llwyddo i hel tipyn o bres, aeth i fyw yn nhref Caernarfon i gadw busnes.
Roedd yn ffigwr amlwg yn yr eisteddfodau, fel bardd a beirniad, ac enillodd sawl cadair a thlws. Roedd yn adnabod y bardd Owen Wynne Jones (Glasynys), a chyfansoddodd farwnad iddo pan fu farw'r llenor yn 1870. Bardd telynegol oedd Ioan Arfon, fel nifer o'i gydoeswyr, ac mae naws sentimentalaidd, pruddglwyfus i lawer o'i gerddi yn ôl safon yr oes hon.
Llyfryddiaeth
Golygodd waith Robert Elis (Cynddelw).