John Madocks
Quick Facts
Biography
Roedd John Edward Madocks (22 Gorffennaf 1786 – 20 Tachwedd 1837) yn dirfeddiannwr ac yn wleidydd Rhyddfrydol Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Dinbych rhwng 1832 a 1835
Roedd Madocks yn unig fab i John Edward Madocks, North Cray, Swydd Caint a Fron Yw, Llandegfan a Frances merch Syr Richard Perryn, Barwn y Trysorlys. Roedd yn gefnder William Alexander Madocks AS Boston a Chippenham a sylfaenydd Porthmadog
Cafodd ei addysgu yng Ngholeg Eglwys Crist, Rhydychen
Ym 1817 priododd Sidney merch Abraham Robarts AS Caerwrangon, bu iddynt 5 merch a 2 fab.
Gwasanaethodd fel Uchel Siryf Sir Ddinbych ym 1821.
Cafodd ei ethol fel AS Ryddfrydol etholaeth Bwrdeistrefi Dinbych yn etholiad cyffredinol 1832 ond collodd y sedd i'r Ceidwadwyr yn etholiad 1835 a bu farw dwy flynedd yn ddiweddarach.
Cyfeiriadau
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Robert Myddelton-Biddulph | Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Dinbych 1832 – 1835 | Olynydd: Wilson Jones |