peoplepill id: john-jones-49
JJ
Wales
9 views today
9 views this week
John Jones
Welsh printer, publisher and poet

John Jones

The basics

Quick Facts

Intro
Welsh printer, publisher and poet
A.K.A.
Pyll
Places
Gender
Male
Place of birth
Trefriw
Place of death
Llanrwst, Conwy County Borough, Wales, United Kingdom
Age
78 years
The details (from wikipedia)

Biography

Am bobl eraill o'r un enw, gweler John Jones (tudalen wahaniaethu).

Argraffydd, cyhoeddwr a bardd oedd John Jones (tua diwedd Ebrill neu ddechrau Mai 1786 - 29 Mawrth 1865), a adwaenir gan amlaf fel John Jones, Llanrwst neu wrth ei enw barddol Pyll. Roedd yn ŵyr i'r argraffydd arloesol Dafydd Jones o Drefriw. Cyhoeddodd sawl llyfr a argraffwyd ganddo ar y wasg argraffu a adeiladwyd ganddo ei hunan; mae'r llyfrau unigryw hynny yn cynnwys y llyfrau Cymraeg lleiaf a argraffwyd erioed a'r llyfr byd natur Faunula Grustensis (1830) gan John Williams.

Bywgraffiad

Ganed John Jones yn fab i Ismael a Jane Davies (mabwysiadwyd y cyfenw Jones wedi hynny) tua diwedd mis Ebrill neu ddechrau Mai yn y flwyddyn 1786; ni chofnodir ei eni ond fe'i bedyddwyd ar y 7fed o Fai, 1786. 'Bryn Pyll' oedd enw y tyddyn ger Trefriw lle y'i ganed a chymerodd yr enw barddol 'Pyll' oherwydd hynny.

Pan oedd yn llanc prentiswyd ef yn ôf mewn gefail leol ond yn 1817 bu farw ei dad, Ismael Jones, cymerodd drosodd ei fusnes argraffu. Aeth ati i ail-drefnu'r busnes. Rhoddodd heibio'r hen argraffwasg, a etifeddasid gan ei dad o Ddafydd Jones, a chynllunio ei wasg ei hun.

Yn 1825 symudodd i Lanrwst gan sefydlu ei wasg yn y dref ac yno y bu hyd ei farw yn 1865, yn 79 oed. Bellach mae argraffwasg John Jones yn grair yn Yr Amgueddfa Wyddoniaeth yn Ne Kensington, Llundain.

Bardd

Roedd John Jones neu "Pyll" yn fardd pur adnabyddus yn ei ddydd. Ei gerdd fwyaf poblogaidd oedd 'Myfyrdod ar Lanau Conwy' (sic), a argraffwyd am y tro cyntaf - gan John Jones ei hun neu gan ei dad efallai - yn y gyfrol Blwch Caniadau (Trefriw, 1812) ac a argraffwyd sawl gwaith mewn blodeugerddi poblogaidd ar ôl hynny.

Llyfrau

Wynebddalen Faunula Grustensis

Cyhoeddodd John Jones sawl llyfr, pamffled baled ac almanac yn ystod ei yrfa. Dyma ddetholiad:

  • John Evans (I. D. Ffraid) (cyfieithydd), Bywyd Turpin Leidr (Llanrwst, 1835). Hanes y lleidr penffordd Dick Turpin.
  • Goronwy Owen, Gronoviana (Llanrwst, 1860). Casgliad o gerddi a llythyrau Goronwy Owen.
  • dienw, Hanes y Lleuad (Llanrwst, dim dyddiad)
  • dienw, Gwaith Aristotle (Llanrwst, d.d.)
  • "Pyll", Blwch Caniadau (Trefriw, 1812)
  • Absalom Roberts, Lloches Mwyneidd-dra (Llanrwst, 1845). Casgliad o'r Hen Benillion, carolau ac englynion.
  • John Thomas (Pentrefoelas), Eos Gwynedd, golygwyd gan Caledfryn (Llanrwst, 1845)
  • John Williams, Faunula Grustensis (Llanrwst, 1830)
  • William Williams, Prydnawngwaith y Cymry (Llanrwst, 1822)

Llyfryddiaeth

  • Gerald Morgan, Y Dyn a Wnaeth Argraff (Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst, 1982).
  • E. D. Rowlands, Dyffryn Conwy a'r Creuddyn (Gwasg y Brython, Lerpwl, 1947)

Cyfeiriadau

The contents of this page are sourced from Wikipedia article. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
Lists
John Jones is in following lists
comments so far.
Comments
From our partners
Sponsored
John Jones
arrow-left arrow-right instagram whatsapp myspace quora soundcloud spotify tumblr vk website youtube pandora tunein iheart itunes