peoplepill id: john-hughes-8
JH
Wales
4 views today
4 views this week
John Hughes
Welsh Calvinistic Methodist minister, died 1860

John Hughes

The basics

Quick Facts

Intro
Welsh Calvinistic Methodist minister, died 1860
Places
Work field
Gender
Male
Religion(s):
Place of birth
Wrexham, Wrexham County Borough, Wales, United Kingdom
Place of death
Abergele, Conwy County Borough, Wales, United Kingdom
Age
64 years
Family
The details (from wikipedia)

Biography

Roedd John Hughes (11 Chwefror 1796 – 8 Awst 1860) yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac yn awdur Cymreig.

Cefndir

Ganwyd Hughes ynAdwy'r Clawdd, Coedpoeth yn blentyn i Hugh Hughes, Saer Coed a Mary (née Davies) ei wraig. Roedd yn frawd i Richard Hughes, perchennog cwmni argraffu a chyhoeddi Hughes a'i Fab, cyhoeddwr ei holl lyfrau. Yr Ysgol Sul oedd brif ffynhonnell ei addysg yn blentyn.

Gyrfa

Dilynodd Hughes yn ôl traed ei dad trwy weithio fel saer coed hyd ei fod yn 19 mlwydd oed. Cafodd ei dderbyn yn aelod o Eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn Adwy'r Clawdd ym 1810 a dechreuodd pregethu ym 1813. Ym 1815 rhoddodd gorau i fywyd y saer ac agorodd ysgol elfennol ym mhentref Yr Hôb. Ymadawodd a'i ysgol er mwyn mynd i'r ysgol ei hun i ddysgu Lladin a Groeg. Agorodd ysgol arall yn Wrecsam ym 1819 a oedd yn dysgu plant a hefyd yn derbyn myfyrwyr hŷn er mwyn eu paratoi at waith y weinidogaeth, gan nad oedd gan Y Methodistiaid Calfinaidd academi enwadol ar y pryd. Ym 1821 rhoddwyd caniatâd iddo i bregethu mewn unrhyw fan yng Nghymru ac ym 1822 pregethodd o flaen Cymdeithasfa'r Methodistiaid Calfinaidd. Cafodd ei ordeinio'n weinidog yn Y Bala ym 1829.

Gan nad oedd gweinidogion yn cael cyflog lawn yn ei gyfnod parhaodd Hughes i gadw ei ysgol yn Wrecsam hyd 1834. Ym 1834 aeth i bartneriaeth ag un o'i frodyr mewn busnes gwerthu blawd, yn gyntaf yn Wrecsam ac yna yn Lerpwl. Ym 1838 penodwyd ef yn gyd weinidog ar gapeli Cymraeg y Methodistiaid Calfinaidd yn Lerpwl ar y cyd a'r Parch Henry Rees. Ymddeolodd o'r weinidogaeth ym 1860 ychydig cyn ei farwolaeth.

Teulu

Bu Hughes y briod ddwywaith. Ym 1820 priododd Mary Ann Jones; bu hi farw ym 1827. Ym 1833 priododd Grace, ei ail wraig. Rhwng y ddwy briodas cafodd pum mab a saith Merch.

Marwolaeth

Bu farw ar ymweliad ag Abergele yn 64 mlwydd oed. Cludwyd ei gorff gan long o'r Rhyl i Lerpwl. Wedi gwasanaeth yng Nghapel Cymraeg Bedford Street a mynychwyd gan dros 64 o weinidogion claddwyd ei weddillion ym mynwent Toxteth Park.

Awdur

Darlun mewn olew (Casgliad LlGC)

Bu Hughes yn awdur a chyfieithydd nifer o lyfrau ar wahanol agweddau o fywyd crefyddol yn ei phlith oedd:

  • Cydymaith Yr Ysgrythyr: Yn Cynnwys Sylwadau Ar Ddilysrwydd Ac Ysbrydoliaeth Yr Ysgrythyrau
  • Y Profiedydd Ysgrythyrol, neu Eirlyfr cryno, o faterion Ysgrythyrol, dan adraniadau priodol, profedig ag adnodau o'r Beibl
  • Drych prophwydoliaeth: neu Wiredd, dyben a deongliad prophwydoliaethau yr Ysgrythyrau Sanctaidd.
  • Unoliaeth y Beibl fel prawf o'i darddiad dwyfol
  • Hanes yr athrawiaeth Gristionogol
  • Holwyddoreg ar hanesiaeth ysgrythyrol.

Ei gampwaith fel awdur oedd y tair cyfrol Methodistiaeth Cymru : sef hanes blaenorol a gwedd bresennol y Methodistiaid Calfinaidd yn Nghymru, o ddechread y cyfundeb hyd y flwyddyn 1850 a gyhoeddwyd gan ei frawd rhwng 1851 a 1856. Mae copïau digidol o'r cyfrolau ar gael i'w darllen yn di dal ar wefan Internet Archive.

Cyhoeddwyd cofiant iddo gan Roger Edwards ym 1864 Buchdraeth y diweddar Barchedig John Hughes, Liverpool, awdwr 'Methodistiaeth Cymru' &c. &c: ynghyda detholion o'i bregethau

Cyfeiriadau

The contents of this page are sourced from Wikipedia article. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
Lists
John Hughes is in following lists
comments so far.
Comments
From our partners
Sponsored
Credits
References and sources
John Hughes
arrow-left arrow-right instagram whatsapp myspace quora soundcloud spotify tumblr vk website youtube pandora tunein iheart itunes