John Edwards
Quick Facts
Biography
- Am bobl eraill o'r un enw, gweler John Edwards.
Bardd a llenor Cymraeg oedd John Edwards (1813 – 24 Gorffennaf 1906), a adnabyddid wrth ei enw barddol Meiriadog. Cyfranodd lawer i gylchgronau Cymraeg ei oes fel golygydd, bardd ac awdur erthyglau. Roedd hefyd yn adnabyddus fel beirniad eisteddfodol.
Bywgraffiad
Ganed Meiriadog ym mhlwyf Llanrwst (Sir Conwy) yn 1813. Cafodd ei addysg yn Ysgol Rad Llanrwst, yr ysgol ramadeg sy'n wrthrych y gerdd adnabyddus gan Ieuan Glan Geirionnydd. Treuliodd gyfnod fel prentis o argraffydd yn Llanrwst. Symudodd i fyw yng Nghefn Mawr, ac wedyn i Llanfair Caereinion, Caerdydd, a Merthyr Tudful. Yn 1844 dychwelodd i Lanfair Caereinion lle priododd a threuliodd weddill ei oes yno.
O ran ei wleidyddiaeth roedd yn Rhyddfrydwr i'r carn, fel llawer o Gymry eraill yn y cyfnod hwnnw. Bu farw ar y 24 o Orffennaf 1906 yn 93 mlwydd oed.
Llenor
Dechreuodd lenydda o ddifrif yn 1835. Rhwng y flwyddyn honno a 1860 ymddangosodd llawer o'i farddoniaeth mewn cylchgronau megis Seren Gomer, Y Dysgedydd, Y Diwygiwr, Y Gwladgarwr, a'r Drysorfa. Enillodd nifer o gadeiriau eisteddfodol.
Roedd gryn barch iddo fel awdurdod ar ramadeg a chystrawen y Gymraeg, fel meistr ar reolau cynghanedd, ac fel beirniad eisteddfodol. Bu'n olygydd Yr Hyfforddwr (1852-58) a'r Llusern (1858 ymlaen).
Cyflwynwyd ei lawysgrifau i Adran Llawysgrifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn 1926.