J. O. Roberts
Quick Facts
Biography
Actor ac athro o Gymro oedd John Owen Roberts, a adwaenid fel J. O. Roberts (1932 – 19 Gorffennaf 2016). Cafodd ei hunangofiant, Ar Lwyfan Amser, ei ryddhau yn 2005 fel rhan o Gyfres y Cewri.
Bywyd cynnar
Ganed John Owen Roberts yn Lerpwl, ac ar ddechrau yr Ail Ryfel Byd, symudodd e a'i chwaer i fyw gyda'i nain a'u taid ar Ynys Môn. Cafodd rhan fwyaf o'i addysg ar yr ynys a dechreuodd ei ddiddordeb mewn drama yn y cyfnod hwn.
Gyrfa
Addysg
Yn y 1950au, dychwelodd i Lerpwl fel athro ond roedd ei ddiddordeb ym myd drama wedi cydio ac roedd wedi ymddangos mewn dramâu radio ac ar lwyfan yn barod. Aeth ymlaen i ddysgu yn Llannerch-y-medd a Bodffordd, cyn symud i adran ddrama'r Coleg Normal, Bangor.
Actor
Wedi ymddeol o'i swydd fel athro ar ddechrau'r 1980au, daeth J O Roberts yn wyneb cyfarwydd mewn dramâu teledu, ac ar lwyfan.
Ymddangosodd mewn nifer o ddramau a chyfresi teledu, yn eu plith - Hufen a Moch Bach (1983-1988), Mae Hi'n Wyllt Mr Borrow (1984), Cysgodion Gdansk (1987), Deryn, Talcen Caled. Chwaraeodd rhan Harri Vaughan yn Lleifior (1993-1995) - cyfres yn seiliedig ar lyfrau enwog Islwyn Ffowc Elis. Portreadodd Owain Glyn Dŵr mewn ffilm deledu yn olrhain hanes y gwrthryfelwr.
Bywyd personol
Roedd yn briod a Mabel (bu farw tua 1993) ac yn dad i'r gyflwynwraig Nia Roberts a'r cyflwynydd chwaraeon, Gareth Roberts.
Derbyniodd Gymrodoriaeth er Anrhydedd am wasanaeth i fyd y ddrama o Brifysgol Bangor ar 13 Gorffennaf 2016. Bu farw wythnos yn ddiweddarach yn ei gartref Pengwern, Benllech ar Ynys Môn.