peoplepill id: iocyn-ddu-ab-ithel-grach
IDAIG
Wales
11 views today
11 views this week
Iocyn Ddu ab Ithel Grach
Poet

Iocyn Ddu ab Ithel Grach

The basics

Quick Facts

Intro
Poet
Places
Work field
Gender
Male
The details (from wikipedia)

Biography

Un o Feirdd yr Uchelwyr oedd Iocyn Ddu ab Ithel Grach (bl. ail hanner y 14g).

Bywgraffiad

Ni wyddom dim gyda sicrwydd am y bardd. Cofnodir gŵr o'r enw Iocyn Ddu mewn arolwg o Arglwyddiaeth Dinbych a wnaed yn 1334, ond ni ellir profi mae'r bardd a olygir er bod yr enw yn bur anghyffredin. Ategir y posiblrwydd hwnnw fodd bynnag gan y ffaith fod yr unig gerdd gan y bardd sydd wedi goroesi yn ymwneud â lleoedd yng ngogledd-ddwyrain Cymru.

Cerdd

Er mai dim ond un gerdd a gedwir o waith Iocyn Ddu, mae hi o ddiddordeb mawr i haneswyr llenyddiaeth Gymraeg. Awdl sy'n disgrifio taith clera ydyw'r gerdd. Mae'n llawn hiwmor ac yn disgrifio profiadau annymunol y clerwr wrth iddo grwydro o dŷ i dŷ yn ceisio nawdd a gorfod byw ar weddillion bywyd pobl eraill, chwydu oherwydd salwedd y bywyd ac ymgreinio am nawdd: mae'n debyg fod tafod y bardd yn ei foch wrth ganu fel hyn ac mae fel adloniant y bwriedwyd y gerdd, er ei bod yn ddisgrifiad cofiadwy o gylch y beirdd crwydrol israddol a elwir yn Glêr.

Llyfryddiaeth

  • Barry J. Lewis (gol.), 'Gwaith Iocyn Ddu ab Ithel Grach', yn Gwaith Madog Benfras ac eraill o feirdd y bedwaredd ganrif ar ddeg (Aberystwyth, 2007).

Cyfeiriadau


The contents of this page are sourced from Wikipedia article. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
Lists
Iocyn Ddu ab Ithel Grach is in following lists
comments so far.
Comments
From our partners
Sponsored
Credits
References and sources
Iocyn Ddu ab Ithel Grach
arrow-left arrow-right instagram whatsapp myspace quora soundcloud spotify tumblr vk website youtube pandora tunein iheart itunes