peoplepill id: ifan-prys-edwards
IPE
United Kingdom
2 views today
4 views this week
Ifan Prys Edwards
Welsh architect

Ifan Prys Edwards

The basics

Quick Facts

Intro
Welsh architect
A.K.A.
Prys Edwards
Work field
Gender
Male
Place of birth
Aberystwyth, United Kingdom
Age
83 years
The details (from wikipedia)

Biography

Pensaer a dyn busnes yw Prys Edwards (ganwyd 11 Chwefror 1942).

Ganwyd Ifan Prys Edwards yn Aberystwyth, yn fab i Syr Ifan ab Owen Edwards ac Eirys Mary Lloyd Edwards (née Phillips). Ei frawd oedd Owen Edwards. Graddiodd mewn Pensaerniaeth o Ysgol Pensaernïaeth Cymru, Caerdydd yn 1965. Roedd yn brif bartner yn ei gwmni pensaernïol ei hun, Partneriaeth Prys Edwards, rhwng 1966 ac 1986.

Urdd Gobaith Cymru

Fel mab i sylfaenydd Urdd Gobaith Cymru bu'n ynghlwm a'r corff drwy ei fywyd. Bu'n aelod am flynyddoedd, yn swyddog yn y gwersylloedd, yn gyn arweinydd Aelwyd Aberystwyth ac yn arweinydd yr Urdd yn yr ymgyrch i gael Deddf yr Iaith Gymraeg.

Mae wedi dal swyddi gwirfoddol o fewn yr Urdd ers 1965 yn cynnwys sgrifennydd Mygedol, Trysorydd, Cadeirydd a Llywydd. Bu'n ymddiriedolwr hyd at 2012 cyn ymddeol oherwydd ei iechyd. Roedd yn parhau fel Llywydd Anrhydeddus.

Swyddi eraill

Roedd yn un o gyfarwyddwyr Bwrdd Datblygu Cymru Wledig rhwng 1976 ac 1984. Roedd yn lywydd Bwrdd Croeso Cymru rhwng 1984 ac 1992 ac yn gadeirydd S4C rhwng 1992 ac 1998. Mae hefyd wedi bod yn aelod o aelod o fyrddau CADW, Awdurdod Twristiaeth Prydeinig a Chanolfan Mileniwm Cymru.

Bywyd personol

Priododd Catherine Williams ar 3 Medi 1966 a cawsant ddau o blant, Lisa Mair a Sion Ab Ifan.

Bu'n dioddef o gyflwr Parkinson, fel ei frawd.

Cyfeiriadau

  1.  Ifan Prys Edwards. Prabook. Adalwyd ar 18 Mehefin 2019.
  2. Galw am fudiad arall o fewn yr Urdd ar gyfer rhieni , BBC Cymru Fyw, 27 Ionawr 2012.Cyrchwyd ar 18 Mehefin 2019.
  3.  Pwyllgor Gwaith yr Urdd. Urdd Gobaith Cymru. Adalwyd ar 18 Mehefin 2019.
  4. 'Yr Urdd achubodd yr iaith': Prys Edwards , BBC Cymru Fyw, 13 Mawrth 2014.Cyrchwyd ar 18 Mehefin 2019.
The contents of this page are sourced from Wikipedia article. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
Lists
Ifan Prys Edwards is in following lists
comments so far.
Comments
From our partners
Sponsored
Credits
References and sources
Ifan Prys Edwards
arrow-left arrow-right instagram whatsapp myspace quora soundcloud spotify tumblr vk website youtube pandora tunein iheart itunes