peoplepill id: hywel-heilyn
HH
Wales
2 views today
16 views this week
Hywel Heilyn
Welsh poet

Hywel Heilyn

The basics

Quick Facts

Intro
Welsh poet
A.K.A.
Heilyn Fardd
Places
Work field
Gender
Male
Place of birth
Llangeitho, United Kingdom
The details (from wikipedia)

Biography

Bardd a brudiwr yn y canu darogan Cymraeg oedd Heilyn Fardd neu Hywel Heilyn. Mae rhai llawysgrifau yn awgrymu y gellid ei uniaethu â'r bardd Hillyn (bl. ail chwarter y 14g) ond mae'r brudiau a dadogir arno yn fwy diweddar.

Cefndir

Cysylltir Hillyn ag ardal Llangeitho, Ceredigion, ond ceir awgrym mewn un o'i gerddi ei fod yn enedigol o Ynys Môn. Cofnodir hefyd un 'Heilin varth' (Heilyn Fardd) ym Môn mewn dogfen o 1351/2. Os oedd Hillyn yn frodor o'r ynys mae'n bosibl felly mai'r un oedd ef a Heilyn, ond gwrthodir hynny yn y golygiad safonol diweddar o waith Hillyn gan Ann Parry Owen.

Gellir dadlau hefyd mai bardd dychmygol y priodolir cerddi iddo yn y canu darogan yw 'Heilyn Fardd' neu fod brudiau diweddarach gan feirdd anhysbys yn cael eu tadogi ar (Hywel) Heilyn am fod ganddo enw fel brudiwr.

Cerddi

O'r cerddi a dadogir ar Heilyn Fardd ac eraill yn y llawysgrifau mae'r rhai a dadogir arno fo a neb arall yn perthyn i ganol y 15g, yn ôl pob tebyg. Maent yn cynnwys fersiwn o'r gyfres o englynion sy'n dechrau gyda'r geiriau cyrch 'Coronog Faban...'; priodolir fersiynau eraill i frudwyr eraill yn cynnwys Taliesin Ben Beirdd.

Llyfryddiaeth

  • Ann Parry Owen (gol.), Gwaith Llywelyn Brydydd Hoddnant, Dafydd ap Gwilym, Hillyn ac eraill (Aberystwyth, 1996). ISBN 0-947531-39-4

Cyfeiriadau

The contents of this page are sourced from Wikipedia article. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
Lists
Hywel Heilyn is in following lists
comments so far.
Comments
From our partners
Sponsored
Credits
References and sources
Hywel Heilyn
arrow-left arrow-right instagram whatsapp myspace quora soundcloud spotify tumblr vk website youtube pandora tunein iheart itunes