peoplepill id: hywel-ab-einion-lygliw
HAEL
3 views today
3 views this week
Hywel ab Einion Lygliw
Poet

Hywel ab Einion Lygliw

The basics

Quick Facts

Intro
Poet
Work field
Gender
Male
The details (from wikipedia)

Biography

Bardd o'r 14g a gysylltir â Meirionnydd oedd Hywel ab Einion Lygliw (fl. 1330 - 1370).Roedd yn ewythr i Gruffudd Llwyd, un o feirdd mawr cyfnod Owain Glyn Dŵr.

Bywgraffiad

Ni wyddom fawr dim am fywyd y bardd.Ceir cofnod am ŵr o'r enw Einion Lygliw yn trigo yn nhrefgordd Rhiwedog, plwyf Llanfor, Meirionnydd yn 1292 a derbynir mai ef oedd tad Hywel, yn ôl pob tebyg.Roedd Einion yn aseswr treth lleol yn ardal Tal-y-bont, Meirionnydd yn 1318.

Cerdd

Dim ond un gerdd gan Hywel ab Einion Lygliw sydd wedi goroesi, ond mae ymhlith yr enwocaf o waith y Cywyddwyr, sef ei awdl foliant i Fyfanwy Fychan "o Gastell Ddinas Brân".Roedd y castell hwnnw yn adfail yng nghyfnod y bardd ac ymddengys mai Myfanwy ferch Iorwerth Ddu o Langollen oedd y ferch mae Hywel ab Einion Lygliw yn anfon march yn llatai iddi.Priododd Myfanwy â Goronwy ap Tudur Fychan o linach Penmynydd a cheir sawl cerdd gan y beirdd iddi hi a'i gŵr.Mae beddfaen alabaster cerfiedig Goronwy Fychan, a fu farw yn 1382, gyda delwau ef a'i wraig Myfanwy, i'w weld yn eglwys plwyf Penmynydd, sydd wedi ei chysegru i Sant Gredifael.

Argraffwyd y gerdd gan Hywel ab Einion Lygliw yn y Myvyrian Archaiology of Wales (1801) a daeth â hi i amlygrwydd cenedlaethol.Dyma'r ysbrydoliaeth i'r gerdd boblogaidd 'Myfanwy Fychan' gan Ceiriog.Ceir cyfieithiad Saesneg o'r gerdd gan Thomas Pennant yn ei Tours in Wales hefyd, a sicrhaodd ei fod yn destun adnabyddus i hynafiaethwyr yng Nghymru a'r tu hwnt.

Llyfryddiaeth

  • Rhiannon Ifans (gol.), Gwaith Gruffudd Llwyd a'r Llygliwiaid eraill (Aberystwyth, 2000).

Cyfeiriadau


The contents of this page are sourced from Wikipedia article. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
Lists
Hywel ab Einion Lygliw is in following lists
comments so far.
Comments
From our partners
Sponsored
Credits
References and sources
Hywel ab Einion Lygliw
arrow-left arrow-right instagram whatsapp myspace quora soundcloud spotify tumblr vk website youtube pandora tunein iheart itunes