peoplepill id: hugh-carter-2
HC
Great Britain United Kingdom
5 views today
5 views this week
Hugh Carter
Welsh Wesleyan Methodist minister

Hugh Carter

The basics

Quick Facts

Intro
Welsh Wesleyan Methodist minister
Work field
Gender
Male
Place of birth
Wales, United Kingdom, Kingdom of England
Place of death
Northwich, Cheshire West and Chester, Cheshire, United Kingdom
Age
71 years
The details (from wikipedia)

Biography

Gweinidog Wesleaidd oedd Hugh Carter (1784 – 8 Medi 1855), ganwyd yn ardal yr Wyddgrug, Sir y Fflint.

Magwraeth

Pan oedd yn ifanc iawn, symudodd ei rieni, Henry Carter a'i wraig, i fyw i dref Dinbych yn Nyffryn Clwyd. Methodistiaid oeddynt a byddai gweinidogion Cymraeg ar gylchdaith Caer yn pregethu'n rheolaidd yng nghartref y teulu. O'r cefndir hwn y daeth Carter, ac ar ôl cychwyn pregethu gyda'r Wesleiaid yn 1802, fe'i hordeiniwyd yn weinidog yn 1805.

Cenhadu ym Manceinion a Llundain

Teithiodd drwy Gymru gan barhau i bregethu yn y Gymraeg am ddeng mlynedd.Yna, yn 1816 dechreuodd bregethu'n y Saesneg ac felly y parhaodd i wasanaethu'r eglwys am bedwar deg mlynedd yn Lloegr a Chymru. Ef oedd y cenhadwr Cymraeg cyntaf a ddanfonwyd i Fanceinion, ac ef hefyd fu'n bennaf gyfrifol am adeiladu capel Cymraeg Wesleaidd cyntaf Llundain. Cyfrannodd i'r cylchgrawn enwadol Yr Eurgrawn Wesleaidd yn 1929, a cheir ynddo ysgrifau pwysig ynghylch hanes cynnar yr eglwys honno. Treuliodd ddwy flynedd hefyd ar gylchdaith Wellington, Swydd Amwythig, ac o'r cyfnod hwnnw bu'n llythyru á'r efengyles Mary Tooth. Erbyn Cynhadledd Flynyddol y Wesleiaid yn 1854 fodd bynnag, aeth yn uwchrif, ac yn fuan wedyn bu farw yn yr Heledd Ddu (Northwich), Swydd Gaer, ar 8 Medi 1855.

Cyfeiriadau

  • A. H. Williams, Welsh Wesleyan Methodism, 1800-1858 its origins, growth and secessions, 1935
  • Hugh Jones, Hanes Wesleyaeth Gymreig, 1911-3, i, 341-2
  • The Minutes of the Annual Conference Methodist Church, xiii, 194
  • Thomas Morgan, Enwogion Cymreig (1700-1900), 1907
The contents of this page are sourced from Wikipedia article. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
Lists
Hugh Carter is in following lists
comments so far.
Comments
From our partners
Sponsored
Credits
References and sources
Hugh Carter
arrow-left arrow-right instagram whatsapp myspace quora soundcloud spotify tumblr vk website youtube pandora tunein iheart itunes