peoplepill id: gwilym-livingstone-evans
GLE
Wales
3 views today
3 views this week
Gwilym Livingstone Evans
Welsh photographer

Gwilym Livingstone Evans

The basics

Quick Facts

Intro
Welsh photographer
Places
Work field
Gender
Male
Birth
Death
Age
78 years
The details (from wikipedia)

Biography

Roedd Gwilym Livingstone Evans (1916-1994) yn ffotograffydd adnabyddus o Flaenau Ffestiniog.

Ei fywyd

Bu’n weithgar iawn yn ei dref leol gan gymeryd lluniau o bobl a digwyddiadau o bob math. Tyfodd ei ddiddordeb mewn ffotograffiaeth ar ôl iddo dderbyn camera Kodak Brownie oddi wrth ei chwaer yn anrheg penblwydd. Nid oedd yn gwneud eifywoliaeth yn llwyr allan o ffotograffiaeth, bu hefyd yn bobydd yn y siop felysion. Ym 1963, gofynnodd Gwasg y Sir - Y Bala iddo wneud gwaith ffotograffig iddynt hwy ar gyfer eu papur lleol ac ym 1972, gofynnwyd iddo wneud gwaith llaw rydd tebyg i’r Cambrian News. Ymddangosodd ei waith bron ym mhob rhifyn o’r papur a hynny tan ei waith olaf i’r papur, sef nodwedd ar Drawsfynydd a Hedd Wyn a ymddangosodd yn yr adran “Weekender”. Wedi hyn gwaethygodd ei iechyd; dioddefodd y clefyd Motor Neurone a bu farw clefyd ym 1994.

Dros y blynyddoedd, cyhoeddwyd nifer o'i ffotograffau ym Mhapurau Llundain e.e. defnyddiwyd ei luniau pan claddwyd Bertrand Russell. Bu hefyd yn gwneud gwaith ffotograffydd proffesiynol, megis tynnu lluniau pasbort a chreu copiau o hen ffotograffau. Roedd pwyslais ei waith bob amser ar gynnwys ac felly ar ddogfennaeth.

Lluniau ar-lein

Yn dilyn ei farwolaeth, cafodd ei luniau eu rhoi i'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Mae'n bosib bod cymaint a 20,000 o negyddion wedi cyrraedd y Llyfrgell ac maent yn amrywio rhwng maint 35mm, fformat canol a 6x9mm. Mae hefyd ambell lun wedi ei lwytho ar wefan Casgliad y Werin, delweddau sydd erbyn hyn a metadata cyfoethog; a hynny oherwydd cyfraniadau'r cyhoedd, neu dorfoli gwybodaeth am y lluniau e.e. ychwanegu enwau i'r wynebau sydd yn y lluniau.

The contents of this page are sourced from Wikipedia article. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
Lists
Gwilym Livingstone Evans is in following lists
comments so far.
Comments
From our partners
Sponsored
Credits
References and sources
Gwilym Livingstone Evans
arrow-left arrow-right instagram whatsapp myspace quora soundcloud spotify tumblr vk website youtube pandora tunein iheart itunes