peoplepill id: gruffydd-dwnn
GD
2 views today
2 views this week
Gruffydd Dwnn
Country gentleman

Gruffydd Dwnn

The basics

Quick Facts

Intro
Country gentleman
was
Work field
Gender
Male
Birth
Death
Age
70 years
Residence
Kidwelly, Carmarthenshire, Wales, United Kingdom
The details (from wikipedia)

Biography

Uchelwr Cymreig ac un o noddwyr Beirdd yr Uchelwyr oedd Gruffydd Dwnn (c. 1500 - c. 1570) a'r enwocaf o Ddwniaid Sir Gaerfyrddin. Cartrefodd ym mhlasty Ystrad Merthyr, ger Cydweli, a godwyd yn 1518, yn 1533. Ef oedd ail fab Owain ap Robert Done o Ystrad Merthyr.

Er iddo gael wyth o blant gan ddwy wraig, bu farw nifer ohonynt. Priododd Ellen cyn 1522, merch Henry ap Sion ap Harri o Rhydarwen a chawsant bedwar mab. Yna priododd eilwaith (cyn 1533): Gwenllian, merch Lewis ap Thomas ap Sion a chawsant dau fab a dwy ferch. Bu ef, ei deulu a'i gartref yn destun nifer o gerddi gan rai o feirdd y cyfnod gan gynnwys: Harri ap Rhys ap Gwilym, Syr Owain ap Gwilym, Wiliam Llŷn, Tomas Fychan ac Owain Gwynedd. Gwnaeth y Dwniaid eu harian drwy ryfel a gweinyddu, gan fwayaf y ganrif gynt.

Cedwir y cerddi hyn yn Llawysgrifau Llansteffan 40 a 133, ac llawgryrif y Llyfrgell Genedlaethol 728. Yr anerchiad olaf iddo oedd yn 1566 gan Wiliam Cynwal. Casglai gyfrolau Cymraeg ac gwyddom fod ganddo 64 ohonynt yn 1564. Bu Llyfrgellydd y Brenin yn ymweld ag ef: John Leland, yn ogystal â William Salesbury.

Swyddi

Bu'n feili Caerfyrddin rhwng 1535-6, henadur yn 1555 ac yn faer yn 1549 ac eto yn 1556.Bu hefyd yn siryf : 1546-7, 1555-6 a rhwng 1559-60; bu'n siedwr 1548-9 ac yn feili Cydweli tua 1560.

Llyfryddiaeth

  • Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion , 1941 , 136-43.
  • Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd, ix, 110.

Gweler hefyd

  • Lewys Dwnn (bl. 1568 - 1616): bardd Cymraeg ac achyddwr.

Cyfeiriadau

The contents of this page are sourced from Wikipedia article. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
Lists
Gruffydd Dwnn is in following lists
comments so far.
Comments
From our partners
Sponsored
Credits
References and sources
Gruffydd Dwnn
arrow-left arrow-right instagram whatsapp myspace quora soundcloud spotify tumblr vk website youtube pandora tunein iheart itunes