Gildas
Quick Facts
Biography
Canwr a chyfansoddwr Cymraeg o Lansannan yw Gildas. Ei enw iawn yw Arwel Lloyd Owen.
Gyrfa
Yn brif gitarydd yr Al Lewis Band mae Arwel wedi dangos ei fod yn meddu hefyd ar y talent i berfformio fel artist unigol.
Yn wreiddiol o Lansannan, astudiodd Arwel Hanes yn y Brifysgol cyn troi ei olygon at Gerddoriaeth. Ei gefndir hanesyddol wnaeth roi'r ysbrydoliaeth iddo ddewis yr enw 'Gildas', er cof am y Mynach Cymreig o'r un enw fu'n pererindota trwy Gymru yn y 6g ac yn cofnodi digwyddiadau'r dydd yn ei weithiau.
Rhyddhaodd ei albwm gyntaf, Nos Da ar label Sbrigyn Ymborth yn 2010 a chafodd cryn ganmoliaeth gan y beirniaid:
"O'm safbwynt i, roedd Nos Da yn un o albyms Cymraeg gorau 2010, os nad y gorau ohonyn nhw..." (Owain Schiavone)
Mae Gildas yn defnyddio dulliau anghyffredin i greu sain unigryw fel 'delays' annisgwyl, tiwnio gwahanol i'r arfer a chyfuno'r electroneg gyda'r gwerin. Disgrifir ei ganeuon fel hwiangerddi modern ac mae wedi enwi Chet Atkins, Doc Watson ac eraill ymhlith ei ddylanwadau cerddorol.
Disgyddiaeth
- Nos Da (2010) (Sbrigyn Ymborth)
- Sgwennu Stori (2013) (Sbrigyn Ymborth)
- Paid รข Deud (2015)