peoplepill id: george-davies-2
GD
Wales
5 views today
5 views this week
George Davies
Welsh teacher

George Davies

The basics

Quick Facts

The details (from wikipedia)

Biography

Athro Cymraeg a dramodydd a aned yn Nhreorci, Cwm Rhondda oedd George Davies (12 Tachwedd 1905 – 28 Tachwedd 1989).

Enillodd nifer o wobrau am ei ddramâu yn cynnwys Tlws y Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberpennar 1946 am ei ddrama Diffodd yr Haul. Pefformiwyd nifer o'i ddramâu ar radio y BBC. Daeth yn aelod cynnar o'r Blaid Genedlaethol ar ôl iddo gael ei ddylanwadu fel plentyn ysgol yn Y Pentre, Rhondda gan D. J. Williams Abergwaun a aeth yno'n athro. Cyd-sefydlodd gymdeithas ddrama yn y Rhondda a daeth yn aelod o Gylch Cadwgan ac yn gyfaill i lenorion eraill yn y Cwm yn cynnwys James Kitchener Davies, Rhydwen Williams, Haydn Lewis Y Ton ac Alban Davies. Rhwng y ddau Ryfel Byd bu'n weithgar dros y Blaid yn y Rhondda gan drefnu nifer o gyfarfodydd a annerchwyd gan wladgarwyr blaenllaw megis W. J. Gruffydd, Kate Roberts, J. E. Jones a Griffith John Williams (Heddiw Mehefin-Awst 1942, Y Fflam Calan Mai 1947). Roedd yn gyfaill agos i eraill sef Wil Berry ag Ambrose Bebb (ei gymdeithion ar daith drwy Ffrainc a'r Eidal yn y 1930au a gofnodir gan Bebb yn y gyfrol Crwydro'r Cyfandir, 1936).

Fel rhan o ddathlu Gŵyl Prydain ym 1950 ysgrifennodd a chynhyrchodd Basiant y Rhondda a berfformiwyd gan blant ysgolion y Rhondda yn Neuadd y Parc a'r Dar.

Dolenni allanol

The contents of this page are sourced from Wikipedia article. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
Lists
George Davies is in following lists
comments so far.
Comments
From our partners
Sponsored
Credits
References and sources
George Davies
arrow-left arrow-right instagram whatsapp myspace quora soundcloud spotify tumblr vk website youtube pandora tunein iheart itunes