peoplepill id: evan-pan-jones
EPJ
Wales
3 views today
3 views this week
Evan Pan Jones
Welsh Congregational minister and writer

Evan Pan Jones

The basics

Quick Facts

Intro
Welsh Congregational minister and writer
A.K.A.
Evan Jones
Places
Gender
Male
Place of birth
Llandysul, Ceredigion, Wales, United Kingdom
Age
87 years
Education
Bala-Bangor Theological Seminary
Presbyterian College, Carmarthen
Marburg University Library
The details (from wikipedia)

Biography

Llenor Cymraeg, gweinidog annibynnol, golygydd a diwygiwr cymdeithasol oedd Evan Pan Jones (12 Mehefin 1834 – 8 Mai 1922).

Bywgraffiad

Cafodd ei eni ym mhlwyf Llandysul, Ceredigion yn 1834. Ar ôl cael ei addysgu yng ngholegau'r Annibynwyr yng Nghymru ac ym Mhrifysgol Marburg yn yr Almaen, aeth yn weinidog yn y Fflint lle treuliodd weddill ei oes.

Cyfranodd yn helaeth i'r ddadl yn y wasg dros ddatgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru, yn enwedig yn ei swydd fel golygydd papur newydd Y Celt. Fel diwygiwr cymdeithasol, roedd yn gadarn o blaid y ffermwyr llai yn erbyn y meistri tir gan argymell gwladoli'r tir yng Nghymru a gwneud i ffwrdd â'r stadau mawr.

Fel llenor, ysgrifennodd gofiannau i Samuel Roberts ('S.R. Llanbrynmair') a'i frodyr ac i Michael D. Jones, arloeswr Y Wladfa, ynghyd â sawl erthygl, hunangofiant a drama.

Llyfryddiaeth

  • Y Dydd Hwn: Annibyniaeth yn Symud fel Cranc (1880). Drama.
  • Cofiant y Tri Brawd o Lanbryn-mair (1892)
  • Cofiant Michael D. Jones (1903)
  • Oes Gofion (dim dyddiad, tua 1905). Hunangofiant.

Gweler hefyd

  • Rhestr awduron Cymraeg (1600–heddiw)

Cyfeiriadau

The contents of this page are sourced from Wikipedia article. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
Lists
Evan Pan Jones is in following lists
comments so far.
Comments
From our partners
Sponsored
Credits
References and sources
Evan Pan Jones
arrow-left arrow-right instagram whatsapp myspace quora soundcloud spotify tumblr vk website youtube pandora tunein iheart itunes