Esyllt Sears
Quick Facts
Biography
Mae Esyllt Mair Sears (ganwyd Mawrth 1981) yn gomedïwr ac ymgynghorydd busnes. Magwyd hi ym Mhenrhyn-coch a Bow Street, Ceredigion ac mae bellach yn byw ym Mro Morgannwg.
Bywgraffiad
Magwyd Esyllt Mair Dafydd ym mhentref Bow Street, gan fynychu Ysgol Gynradd Rhydypennau ac Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig yn Aberystwyth. Enillodd radd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae'n briod a chanddi ddau o blant. Symudodd hi a'i gŵr, sy'n ddi-Gymraeg, o Lundain i Gymru fel bod modd magu'r plant yn Gymraeg ac iddynt dderbyn addysg Gymraeg, sy'n "bwysig iawn" iddi.
Mae'n ddarlithydd rhan amser yn Athrofa Busnes a Chymdeithas Prifysgol De Cymru a gyda Prifysgol Fetropolitan Caerdydd trwy'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus.
Mae hi hefyd yn golofnydd i bapur misol Y Cymro.
Gyrfa Comedi
Daeth ar restr 'Rhai i'w Gwylio' menywod mewn comedi (allan o 400 o gomediwragedd eraill) yng nghystadleuaeth Funny Women yn 2017. Mae'r gystadleuaeth yno i geisio hybu rhagor o fenywod i fentro i fyd comedi.
Ers hynny mae wedi gwneud setiau comedi yn Sesiwn Fawr Dolgellau 2018 gyda pherfformwyr eraill megis Hywel Pitts a Jâms Thomas. yn Eisteddfod Caerdydd lle bu'n rhan o'r gig gomedi gyntaf gan ferched yn unig yn y Gymraeg, ac yn ei thref enedigol, Aberystwythac fel rhan o Ŵyl Gomedi Aberystwyth a sesiynau comedi yn Lloegr.
Dolenni
Cyfeiriadau
- ↑ https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/44499881
- ↑ https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/40875378
- ↑ https://uk.linkedin.com/in/esyllt-sears-a3b03b2b?trk=pub-pbmap
- ↑ https://golwg360.cymru/newyddion/cymru/507766-merched-chomedi-rhai-gwylio
- ↑ https://sesiwnfawr.cymru/digwyddiad-comedi/esyllt-sears-2/
- ↑ http://hakaentertainment.co.uk/news/esyllt-sears-cover-star/