peoplepill id: dyfrig-evans
DE
United Kingdom Wales
4 views today
12 views this week
Dyfrig Evans
Welsh actor, singer and musician

Dyfrig Evans

The basics

Quick Facts

Intro
Welsh actor, singer and musician
Gender
Male
Place of birth
Bangor, Gwynedd, Wales, United Kingdom
Place of death
Cardiff, Cardiff, Wales, United Kingdom
Age
43 years
The details (from wikipedia)

Biography

Actor a cherddor o Gymro oedd Dyfrig Wyn Evans (23 Awst 1978 – 26 Mai 2022). Roedd yn adnabyddus am ei berfformiadau mewn cyfresi teledu megis Rownd a Rownd, Talcen Caled a Darren Drws Nesa. Yn y 1990au, fe oedd prif leisydd y band Topper ac roedd nifer yn ei adnabod fel 'Dyfrig Topper'.

Bywyd cynnar

Roedd Dyfrig yn wreiddiol o Benygroes ac aeth i Ysgol Dyffryn Nantlle.

Gyrfa

Actio

Cafodd Dyfrig ei ran gyntaf ar deledu yn 13 mlwydd oed, yn C'mon Midffîld!. Daeth i’r amlwg wedyn fel un o gast gwreiddiol Rownd a Rownd, yn portreadu Arwel Jones neu 'Ari Stiffs' a bu'n actio ar y gyfres am bum mlynedd. Yn 2002 ymunodd â chast Talcen Caled fel Huw Williams. Bû'r cymeriad yn rhan o'r rhaglen tan ddiwedd y gyfres yn 2005.

Roedd hefyd yn rhan o'r gyfres Emyn Roc a Rôl yn chwarae’r cymeriad Eryl, aelod o'r band ac un o'r prif gymeriadau. Ymddangosodd mewn cyfresi teledu arall fel Tipyn o Stâd, Gwlad yr Astra Gwyn ac Y Gwyll.

Rhwng 2017 a 2018 bu'n portreadu Kevin mewn dwy gyfres o Darren Drws Nesa.

Cerddoriaeth

Yn 1992 daeth yn aelod o fand y Paladr gyda'i frawd Iwan Evans. Yn 1995 rhyddhawyd eu cân gynta, sef "Dwi'm yn gwbod. Pam?", ar gasgliad aml-gyfrannog gan label Ankst o'r enw S4C Makes Me Want To Smoke Crack Vol 1. Ymddangoson nhw hefyd ar yr ail record yn y gyfres S4C Makes Me Want To Smoke Crack Vol 2 yn 1996, ond y tro yma dan enw newydd, Topper.

Cynhyrchwyd Arch Noa, EP cyntaf y band, a’r albwm Something to Tell Her gan Mark Roberts o Catatonia. Rhyddhawyd y ddau ar label Ankst yn 1997. Ar gychwyn 1999 rhyddhawyd albwm 'mini' arall, Non Compos Mentis, y tro yma ar eu label eu hunain, Bedlam.

Rhyddhaodd y grŵp eu trydydd albwm Dolur Gwddw yn 2000. Rhyddhawyd y casgliad Y Goreuon O'r Gwaethaf ar label Rasal yn 2005. Yn 2006 cyhoeddoedd Dyfrig albwm o'r enw Idiom fel cerddor unigol.

Yn 2019 daeth yn drydydd yng nghystadleuaeth Cân i Gymru gyda'r gân LOL.

Bywyd personol

Roedd Dyfrig yn byw yng Nghaerdydd gyda ei bartner Elaine Jenkins. Roedd ganddo ddau o blant, Caio a Twm gyda’i gyn-wraig Rowena a merch o'r enw Begw gyda ei gyn-bartner Meleri.

Bu'n reolwr ar Gegin Bodlon yng Nghaerdydd am dair mlynedd.

Marwolaeth

Bu farw ar ôl salwch byr yn 43 mlwydd oed.

Cynhaliwyd ei angladd brynhawn dydd Mawrth, 14 Mehefin 2022, ym Mhenygroes. Daeth rhai cannoedd i wasanaeth cyhoeddus er cof amdano yng Nghapel y Groes dan arweiniad y Parchedig Geraint Roberts. Dangoswyd rhaglen deyrnged i Dyfrig ar S4C, 24 Mehefin 2022.

Ffilmyddiaeth

BlwyddynTeitlRhanCwmni CynhyrchuNodiadau
1992Midffîld: Y MwfiOsborne Picton (ifanc)Ffilmiau'r Nant
1995-2000Rownd a RowndArwel JonesFfilmiau'r NantCymeriad rheolaidd
Meibion Glandŵr
2002-2005Talcen CaledHuw WilliamsFfilmiau'r NantCyfres 3-5
2004-2005Emyn Roc a RôlErylElidir2 Gyfres
2006Llythyrau Ellis WilliamsEllis Williams
2008Tipyn o StâdScottCwmni DaCyfres 7
2009BlodauCwmni Da
Gwlad yr Astra Gwyn
2014Jam ManMikeffilm fer
2016Y GwyllDafydd MorrisFiction FactoryCyfres 3
2017-2018Darren Drws NesaKevinRondo2 Gyfres
2018GwenTad
2019Cân i GymruCanwr / CyfansoddwrAvanti3ydd
2019-2020Helo SyrjeriTrosleisio2 gyfres
2019CraithGlyn JonesSevern ScreenCyfres 2
2021Hewlfa DrysorIfas y TrycAvanti
2021FflamMattiVox Pictures
2022StâdScottCwmni Da1 cyfres; dilyniant o Tipyn o Stâd

Disgyddiaeth

Gweler hefyd ddisgyddiaeth Topper

Albymau

  • Idiom (Rasal, 2007)

Senglau ac EP

  • Mae Gen i Angel(Jig Cal, 2020)


Cyfeiriadau

The contents of this page are sourced from Wikipedia article. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
Lists
Dyfrig Evans is in following lists
comments so far.
Comments
From our partners
Sponsored
Credits
References and sources
Dyfrig Evans
arrow-left arrow-right instagram whatsapp myspace quora soundcloud spotify tumblr vk website youtube pandora tunein iheart itunes