Dona
Quick Facts
Biography
Sant o Gymru oedd Dona (g. 580). Ceir Dwna fel amrywiad ar ei enw a'i enw llawn oedd Dona ap Selyf. Mae ei ddydd gŵyl ar 1 Tachwedd.
Hanes
Roedd Dona yn un o feibion Selyf ap Cynan Garwyn ('Selyf Sarffgadau'), mab Cynan Garwyn, o deulu brenhinol Powys. Ar ôl cyfnod fel mynach ym Mangor yn Arfon, aeth i fyw fel meudwy yng nghongl de-ddwyreiniol Môn.
Eglwys a thraddodiadau
Cysegrir Eglwys Llanddona ar Ynys Môn iddo. Dywedir fod yr eglwys wreiddiol yma yn dyddio o tua 610. Ail-adeiladwyd yr eglwys bresennol yn 1873. Yn yr eglwys mae cloch yn dyddio o 1647 a chwpan cymun arian yn dyddio o 1769, ond gyda chaead o 1574.
Hefyd yn ardal Llanddona ceir carreg naturiol yn ardal Mynydd Crafgoed a elwir yn Gadair Dona. Ceir Craig Dona ger Tref-y-clawdd, Maesyfed, a dywedir yr arferai pobl fynd i yfed o'r ffynnon iachusol yno.
Llefydd cysylltiedig
# | Eglwys neu Gymuned | Delwedd | Cyfesurynnau | Lleoliad | Wicidata |
---|---|---|---|---|---|
1 | Eglwys Sant Dona | 53°18′18″N 4°08′27″W / 53.305121°N 4.140838°W / 53.305121; -4.140838 | Ynys Môn | Q7592976 | |
2 | Llanddona | 53°17′35″N 4°08′20″W / 53.293°N 4.139°W / 53.293; -4.139 53°17′49″N 4°07′59″W / 53.2969064583°N 4.13304435344°W / 53.2969064583; -4.13304435344 | Ynys Môn | Q3402690 |