peoplepill id: david-lloyd-10
DL
United Kingdom Great Britain
2 views today
2 views this week
David Lloyd
British cleric and and writer; clergyman at Church of England

David Lloyd

The basics

Quick Facts

Intro
British cleric and and writer; clergyman at Church of England
Gender
Male
Religion(s):
Place of birth
Llanbister, Powys, Wales, United Kingdom
Place of death
Llanbister, Powys, Wales, United Kingdom
Age
85 years
David Lloyd
The details (from wikipedia)

Biography

Roedd Y Parchedig David Lloyd (12 Mai 1752 - 3 Mawrth 1838) yn glerigwr, awdur, bardd, cerddor a pheiriannydd Cymreig.

Cefndir

Cafodd Lloyd eni yn Llanbister ym 1752 yn fab i Thomas Lloyd ffarmwr sylweddol a Mary (née James) ei wraig.

Cafodd rhywfaint o addysg ysbeidiol mewn Lladin a rhifyddeg mewn ysgolion lleol oedd yn cael ei ymyrru'n aml oherwydd angen ei dad iddo weithio ar y fferm. Fe ddysgodd Groeg o lyfrau ar ben ei hun yn ogystal â sut i farddoni mewn modd "derwyddol".

Eglwys Sant Cynllo Llanbister

Gyrfa

Yn ei ieuenctid daeth yn gyfeillgar efo John Wesley. Roedd Wesley wedi ceisio dwyn perswâd arno i ymuno â chymdeithas y Weslead a gweithio fel pregethwr teithiol. Gwrthododd Lloyd gan ei fod yn teimlo nad oedd ganddo lais digon cryf i bregeth yn yr awyr agored. Teimlai byddai'n fwy addas iddo geisio lledaenu'r Efengyl fel offeiriad â gofal plwyf. Gan hynny, ym 1771, agorodd ysgol yn Llanbister er mwyn cynnal ei hun wrth iddo baratoi ar gyfer gwneud cais i ddod yn offeiriad Eglwys Loegr. Parhaodd i ddangos cefnogaeth i achos y Weslead. Mae hanes amdano yn clywed criw o Weslead yn canu emynau mewn ystafell mewn tŷ ffarm lle roeddynt yn arfer cwrdd. Roedd wedi ei blesio cymaint rhoddodd cymorth iddynt agor capel, er ei fod yn offeiriad Eglwys Loegr. Ymysg ei ddisgyblion yn ei ysgol bu'r Parch. Dr James Donne DD (1764 - 1844) , ficer Llanyblodwel, ac addysgwr.

Cafodd Lloyd ei hordeinio'n offeiriad ym 1778. Fe wasanaethodd fel curad Putley, Swydd Henffordd rhwng 1785 a 1789. Ym 1789 dychwelodd i Lanbister i fod yn ficer y plwyf gan aros yno hyd ei farwolaeth.

Awdur

Ym 1792 cyhoeddodd Lloyd The Voyage of Life cerdd grefyddol hirfaith mewn naw cyfrol. Ail gyhoeddwyd y gerdd ym 1812 gydag adolygiadau a ychwanegodd degfed gyfrol i'r casgliad gyda'r teitl hirach Characteristics of Men, Manners and Sentiments, or, The Voyage of Life. Ei gyfrol fawr arall oedd Horae theologicae, or, A series of essays on subjects interesting and important; embracing physics, morals and theology (1823). Er gwaethaf ei deitl, roedd yn gasgliad o erthyglau diwinyddol oedd yn egluro'r farn Anglicanaidd ar bynciau ffydd. Cyhoeddodd hefyd pregeth wladgarol England's Privileges (1797).

Roedd Lloyd yn gerddor ac yn gyfansoddwr yn ogystal â bardd ac awdur. Roedd yn canu'r feiolin a gwahanol offerynnau allwedd fwrdd. Cyfansoddodd lawer ar gyfer defnydd lleol ond yr unig ddarn o'i waith cerddorol sydd wedi goroesi yw ymdeithgan filwrol o'r enw The Loyal Cambrian Volunteers.

Bu Lloyd hefyd yn ymddiddori mewn mathemateg a pheirianneg. Yn ei dridegau ceisiodd dyfeisio peiriant symudiad diddiwedd, methodd ond barhaodd i ymchwilio i'r pwnc am weddill ei oes, heb boeni am ei fethiant, ond yn ymhyfrydu yn yr hyn â darganfu trwy bob ymgais.

Teulu

Priododd Lloyd â Mary, ferch John Griffiths, Llangunllo ym 1779 cawsant fab, John, a fu farw yn ei ieuenctid.

Marwolaeth

Bu farw o strôc yn ei reithordy yn 85 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion yn naear ei eglwys.

Cyfeiriadau

The contents of this page are sourced from Wikipedia article. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
Lists
David Lloyd is in following lists
comments so far.
Comments
From our partners
Sponsored
Credits
References and sources
David Lloyd
arrow-left arrow-right instagram whatsapp myspace quora soundcloud spotify tumblr vk website youtube pandora tunein iheart itunes