peoplepill id: datgeiniad
D
Wales
6 views today
7 views this week
datgeiniad
"declarer" of poems in medieval Wales

datgeiniad

The basics

Quick Facts

Intro
"declarer" of poems in medieval Wales
Places
Work field
The details (from wikipedia)

Biography

Yng Nghymru'r Oesoedd Canol, gŵr a "ddatganai" gerddi'r beirdd oedd y datgeiniad. Roedd datgan cerdd yn grefft ynddi ei hun yn y gyfundrefn a bontiai Cerdd Dafod a Cherdd Dant. Roedd y term "datgan" yn golygu perfformio - canu gan amlaf, mae'n debyg - cerdd yn y neuadd ond erys cryn ansicrwydd ynglŷn â natur y perfformio hwnnw. Parhaodd yr arfer hyd gyfnod y Tuduriaid ac efallai'n wir hyd yr 17g a diwedd y traddodiad barddol Cymraeg fel cyfundrefn.

Yn ôl tystiolaeth y gramadegau barddol a Statud Gruffudd ap Cynan, roedd disgwyl i'r datgeiniad fedru darllen Cymraeg, gwybod yr wyth rhan ymadrodd mewn gramadeg (e.e. berfau, enwau), sillafau, cyfansoddi englyn a gwybod hefyd iawn ddosbarth cywydd ac awdl a medru eu datgan. Roedd disgwyl iddo fod yn gyfarwydd a cheinciau Cerdd Dant (cerddoriaeth) hefyd; yn ymarferol roedd hyn yn golygu medru canu'r delyn a/neu'r crwth.

Roedd ei waith ynghlwm wrth y bardd, yn ôl Statud Gruffudd ap Cynan. Roedd disgwyl iddo fynd gyda bardd trwyddedig ar gwrs clera ac ymddengys ei fod yn gwasanaethu fel math o was ystafell iddo hefyd.

Erbyn cyfnod y Tuduriaid, canai'r datgeiniaid trwyddedig gerddi'r beirdd i gyfeiliant distaw y delyn (telyn rawn gyda'i thannau o fwng neu gynffon ceffyl) neu'r crwth, ond gwyddom am ddosbarth o ddatgeinaid o statws is a elwir yn "ddatgeniaid pen pastwn". Byddai un o'r datgeiniaid hyn yn sefyll ar ganol y neuadd ac yn curo'r llawr yn rhythmig gyda'i bastwn (ffon fawr) wrth adrodd neu ganu'r gerdd. Mae'n bosibl fod y math yma o ddatgeniaid o dras hynafol ac yn adlewyrchu'r arfer gynnar.

Cyfeiriadau

The contents of this page are sourced from Wikipedia article. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
Lists
datgeiniad is in following lists
comments so far.
Comments
From our partners
Sponsored
datgeiniad
arrow-left arrow-right instagram whatsapp myspace quora soundcloud spotify tumblr vk website youtube pandora tunein iheart itunes