peoplepill id: daniel-gwydion-williams
DGW
10 views today
10 views this week
Daniel Gwydion Williams

Daniel Gwydion Williams

The basics

Quick Facts

Work field
Birth
Age
53 years
The details (from wikipedia)

Biography

Mae Daniel Gwydion Williams (fel rheol, Daniel Williams) (ganwyd Mai 1972) yn ddarlithydd, awdur a cherddor jazz. Mae'n arbenigo mewn llenyddiaeth Saesneg o Gymru, y cysylltiad rhwng Cymru a'r Unol Daleithiau a phorfiadau, diwylliant a llenyddiaeth bobl ddu America, amlieithrwydd a theori a llenyddiaeth asgell chwith.

Bywgraffiad

Magwyd Daniel Williams yn Aberystwyth lle fynychodd Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig yn y dref. Mae'n un o ddau fab ac mae ei frawd, Tomos, yn canu'r trwmped gydag ef yn eu band jazz, 'Burum'. Ei dad yw'r hanesydd, Gareth Williams sy'n arbenigwr ar hanes cymdeithasol Cymru y 19g a'r 20g ac yn arbennig hanes canu corawl a rygbi.

Mae Daniel yn byw ym Mhontardawe ac yn briod a ganddo ddau blentyn.

Mae'n Athro a darlithydd yn Adran Saesneg Prifysgol Abertawe.

Gyrfa Academaidd

Addysgwyd ef ym Mhrifysgol East Anglia, Prifysgol Harvard a Choled y Brenin, Prifysgol Caergrawnt. Mae bellach yn Athro Llenyddiaeth Saesneg Canolfan Richard Burton ar gyfer astudio Cymru ym Mhrifysgol Abertawe.

Roedd yn Athro Visiting yn Mhrifysgol Harvard yn 2012 a arianwyd gan y Leverhulme Trust a chyfarwyddwr Centre for Research into the Literature and Language of Wales rhwng 2007 a 2010.

Llyfryddiaeth

Awdur

Ethnicity and Cultural Authority: From Arnold to Du Bois (Gwasg Prifysgol Caeredin, 2006)
Black Skin, Blue Books: African Americans and Wales (Gwasg Prifysgol Cymru, 2012).

Golygydd

Slanderous Tongues: Essays on Welsh Poetry in English 1970-2005 (Gwasg Seren, 2010)
Canu Caeth: Affro-Americaniaid a’r Cymry (Gwasg Gomer, 2010)
Beyond the Difference: Welsh Literature in Comparative Contexts (University of Wales Press, 2004) cyd-awdurwyd gydag Alyce von Rothkirch
Who Speaks for Wales? Nation, Culture, Identity (University of Wales Press, 2003) golygydd casgliad o ysgrifau Raymond Williams
Safbwyntiau (2012 - ) golygydd cyffredinnol y gyfres ar astudiaethau diwylliannol (Gwasg Prifysgol Cymru)
Writing Wales in English (Gwasg Prifysgol Cymru), cyfres o fonograffau CREW. Cyd-olygydd gyda Kirsti Bohata
The Celtic Nations and the African-Americas (2010) cyfrol arbennig a Astudiaethau Cymharol Americanaidd
Raymond Williams in Japan (2011) cyfrol arbenig o 'Keywords'

Cerddoriaeth

Mae'n canu'r sacsoffon gyda'r chwechawd gwerin-jazz, Burum. Perfformiodd y band yng Gŵyl Ryng-geltaidd An Oriant yn Llydaw yn 2018.

Disgograffi

Alawon: The Songs of Welsh Folk (Recordiau Fflach, 2007)
Caniadau (Recordiau Bopa, 2012)

Gwleidyddiaeth

Mae'n gynghorydd Plaid Cymru ar Gyngor Cymuned Pontardawe. Safodd fel ymgeisydd i Blaid Cymru yn etholeth Castell-nedd yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2017 a 2019.

Dolenni

Cyfeiriadau

The contents of this page are sourced from Wikipedia article. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
Lists
Daniel Gwydion Williams is in following lists
comments so far.
Comments
From our partners
Sponsored
Credits
References and sources
Daniel Gwydion Williams
arrow-left arrow-right instagram whatsapp myspace quora soundcloud spotify tumblr vk website youtube pandora tunein iheart itunes