peoplepill id: cassie-davies
CJD
United Kingdom
5 views today
7 views this week
Cassie Jane Davies
Educator and Welsh nationalist

Cassie Jane Davies

The basics

Quick Facts

Intro
Educator and Welsh nationalist
Work field
Gender
Female
Place of birth
Tregaron, Ceredigion, Wales, United Kingdom
Age
90 years
The details (from wikipedia)

Biography

Cefndir

Ganwyd Cassie Davies (1898 - 1988) yn Tregaron, yn 1898. Magwyd hi yn un o ddeg o blant mewn teulu llengar a cherddgar.    

Addysgwyd hi yn ysgol fach Blaencaron, ac yna yn y ‘Cownti Sgŵl’ yn Nhregaron, lle bu iddi gael ei dysgu gan S. M. Powell.  Dyma un o’r prif ddylanwadau ar y Cassie ifanc, gyda’i gwersi wedi’u gwreiddio yn hanes, chwedlau a thraddodiadau’r ardal.  

Symudodd ymlaen i astudio Saesneg ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth, ac er iddi ennill ei gradd nid effeithiodd y cwrs arni o gwbl, ac felly aeth yn ôl i ennill ail radd yn y Gymraeg.  Yn ystod y cwrs hwn “…yr enynnwyd fy niddordeb diollwng i yn fy iaith fy hun.  Dyma’r pryd y dechreuais i ddod yn ymwybodol o’m gwreiddiau a’m hetifeddiaeth fel Cymro…”.

Bu’n ddarlithydd yng Ngholeg Addysg y Barri rhwng 1923 ac 1938.

Bu farwyn 1988. Gosodwyd cofeb iddi ar wal Capel Blaencaron gan Gangen Plaid Cymru Tregaron gyda’r geiriau canlynol wedi’u hysgrifennu arni: Bu’n hwb i’w bro a’i gwlad.

Plaid Cymru

Yn ystod Ysgol Haf gyntaf Plaid Cymru ym Machynlleth yn 1926, ymunodd Cassie â’r Blaid gan gwrdd â rhai o’i ffrindiau oes yno, pobl fel Saunders Lewis, Kate Roberts a D.J. Williams.  Aeth yn ôl i’r Bari a sefydlu cangen o’r Blaid yno, a bu ei gwaith gyda Phlaid Cymru yn ddiflino wedi’r haf hwnnw.  

Yn 1938 penodwyd hi yn Arolygydd Ysgolion, gyda gofal arbennig dros y Gymraeg. Yn y swydd hon y daeth hi i adnabod Cymru, gan flasu ac ymgolli yn niwylliannau amrywiol ei gwlad; o Ben Llŷn i’r Rhondda, Morgannwg a Phenfro. Lle bynnag yr âi, hoffai ddim mwy ’na dod i adnabod cymeriadau’r ardal a rhannu ambell i stori neu gân.

Trafodir dylanwad S. M. Powell ar Cassie Davies a nifer o arweinwyr cynnar eraill Plaid Cymru yn narlith yr Athro E. Wyn James,‘“Gweld gwlad fawr yn ymagor”: Breuddwyd Cyffrous G. J. Williams a Saunders Lewis’, http://www.hanesplaidcymru.org/english-cofio-yr-athro-griffith-john-williams-ai-wraig-elizabeth/.


Cyfeiriadau


Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
The contents of this page are sourced from Wikipedia article. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
Lists
Cassie Jane Davies is in following lists
comments so far.
Comments
From our partners
Sponsored
Credits
References and sources
Cassie Jane Davies
arrow-left arrow-right instagram whatsapp myspace quora soundcloud spotify tumblr vk website youtube pandora tunein iheart itunes