Capten William Rogers
Quick Facts
Biography
Un o arloeswyr y Wladfa ym Mhatagonia oedd William Rogers (28 Ebrill 1827 – 1 Ionawr 1909).
Ganwyd ym Mhen-bre, Sir Gaerfyrddin.Cafodd ei wraig, Martha, ei geni yn Llanelli, 2 Ionawr 1827. Mwy na thebyg mai merch David ac Elinor Williams, High Street, Llanelli oedd Martha a chafodd ei bedyddio yn eglwys y plwyf 17 Ionawr 1827.
Ymunodd William â'r Llynges Frenhinol ac roedd yn un o'r morwyr a laniodd o longau rhyfel i weithio arfau yn yr amddiffynfeydd ar yr ucheldiroedd yn ystod Rhyfel y Crimea.Credwyd iddo fod wedi marw ar faes y gâd achos hwyliodd ei long am adre tra roedd yn y ffosydd yn amddiffyn.Dychwelodd adre yn hwyrach a dod o hyd i'w wraig mewn dillad gweddw.Er i hyn beri syndod a dryswch i'w wraig a'i berthnasau, cafodd groeso yn llawn llawenydd.Cafodd pedair medal am y rhan chwaraeodd ym mrwydrau Alma, Sebastopol ac Inkerman.Ar ôl hyn aeth i weithio ar longau masnach ac fe lwyddodd i ddringo i reng Capten.
Perswadiodd ei frawd iddo i ymfudo i Bennsylvania yn yr Unol Daleithiau gyda'i deulu yn 1862. Yno, yn 1874, clywodd y gweinidog Abraham Matthews, a oedd ar daith drwy'r Unol Daleithiau, yn rhoi darlith yn hyrwyddo ymfudiad i Batagonia. Perswadwyd llawer o'r Cymry yng Ngogledd America i ymfudo a phrynwyd llong o'r enw Electric Spark i gario'r ymfudwyr i Batagonia o dan gapteniaeth William Rogers.Roedd llawer ohonynt yn bobl cyfoethog ac fe lwythwyd y llong gyda chyflenwad o fwyd a diod am y siwrnau a dodrefn a pheiriannau amaethyddol.Canol nos ar 26 Mai drylliwyd y llong ar y bar yn Tutoya ar arfordir Brasil.Cafodd y teithwyr i gyd eu hachub a chariwyd 40 o'r bocsys yn llawn nwyddau i'r lan, ond bu rhaid gadael y peiriannau trwm ar ôl, gan gynnwys peiriant dyrnu David Roberts.Mewn amser cyrhaeddont Buenos Aires a chael lloches yng Nghartref yr Ymfudwyr.Yno roeddent pan gyrhaeddodd y gweinidog Abraham Matthews ac ymfudwyr eraill ar y llong Hipparchus.Llwyddont i deithio i Batagonia ar y llong Irene.Cafodd y newydd-ddyfodiaid groeso mawr ac mewn cyfarfod cyhoeddus ar 17 Hydref 1874, diolchwyd i William Rogers am arwain yr ymfudwyr ar ôl colli'r Electric Spark.Estynwyd gwahoddiad iddo i ddychwelyd gyda'i deulu i ymgartrefu yn y Wladfa.Dychwelodd i'r Unol Daleithiau a phrynwyd llong, y Lucerne, gyda'r bwriad o hwylio i Batagonia.Cyrhaeddodd William Rogers, ei deulu a 46 o ymfudwyr eraill yn ddiogel ym Mhatagonia.
Hwyliodd William Rogers o Chubut i'r Río Negro ar y llong Juan Dillon, i gario cynnyrch o'r Wladfa, a dychwelyd gyda nwyddau angenrheidiol i'r gwladychwyr.Bu hefyd yn hela morloi ar arfordiroedd y gogledd ac ynysoedd y de.Rhoddodd y gorau i hwylio pan yn 60 oed ar ôl erfyniadau ei deulu a'i ffrindiau.Yn 1905, pan yn 80 oed, dychwelodd i'r lle ganwyd a chafodd groeso cynnes gan y teulu a ffrindiau.
Bu farw Capten William Rogers 1 Ionawr 1909, yn 82 oed ac mae llong wedi ei cherfio ar ei garreg fedd yn y fynwent yn y Gaiman.Marwodd ei wraig Martha 13 Chwefror 1911, yn 83 oed.
Cyfeiriadau
- ↑ Yn ôl yr arsgrifen ar ei garreg fedd.
Llyfryddiaeth
- (Saesneg) Eirionedd A. Baskerville (2014). "Companion to the Welsh Settlement in Patagonia" (pdf). Cymdeithas Cymru Ariannin. Cyrchwyd 4 Tachwedd 2017.