Arwel Gruffydd
Quick Facts
Biography
Actor, cyfarwyddwr a Chyfarwyddwr Artistig presennol Theatr Genedlaethol Cymru yw Arwel Gruffydd (ganwyd Awst 1967).
Bywyd cynnar ac addysg
Fe'i magwyd yn Nhanygrisiau ger Blaenau Ffestiniog. Yn naw oed ymunodd â band yr Oakley a cafodd y cyfle i arwain y band ambell dro. Fe'i addysgwyd yn Ysgol y Moelwyn ac yna Coleg Brifysgol Bangor i astudio Cymraeg fel brif bwnc a cherddoriaeth fel ail bwnc. Derbyniodd radd BA yn y Gymraeg yn 1985. Wedi hynny astudiodd actio yn Webber Douglas Academy of Dramatic Arts yn Llundain.
Gyrfa
Tra oedd dal yn fyfyriwr cafodd ran yn y ffilm Stormydd Awst gan Endaf Emlyn. Yn dilyn astudio yn ysgol ddrama Webber Douglas, cafodd waith actio mewn dramâu llwyfan, gyda Chwmni Theatr Gwynedd, Hwyl a Fflag a Bara Caws gan fynd ymlaen i gael gwaith rheolaidd fel actor ffilm, teledu a theatr. Yn ddiweddarach aeth ati i ysgrifennu a chyfarwyddo ei ffilmiau byrion ei hun. Yn 2002 enillodd wobr Wobr D. M. Davies am un o'r ffilmiau hyn, Cyn Elo'r Haul, yng Ngwyl Ffilmiau Ryngwladol Caerdydd.
Roedd yn Rheolwr Llenyddol gyda Sgript Cymru rhwng Mawrth 2006 a Mawrth 2008 ac yna daeth yn Gyfarwyddwr Cyswllt gyda Sherman Cymru rhwng Mai 2008 a Ebrill 2011 lle roedd yn gyfrifol am raglen Gymraeg y cwmni.
Fe'i hapwyntiwyd yn Gyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru yn Mawrth 2011 yn dilyn ymddiswyddiad Cefin Roberts a dechreuodd ar y gwaith ar 3 Mai. Yng Ngorffennaf 2016 cyhoeddwyd bod ymddiriedolwyr Theatr Genedlaethol Cymru wedi ei ail-benodi am bum mlynedd arall.
Gwaith
Actio
Ffilmiau
- Stormydd Awst (1987)
- Hedd Wyn (1992)
- Cylch Gwaed (1992)
- Oed Yr Addewid (2002)
Teledu
- Ty Chwith (rhaglen i blant meithrin, 1990au, HTV ar gyfer S4C)
- Troi a Throi (cyflwynydd rhaglen i blant iau, 1990au, HTV ar gyfer S4C)
- Paradwys Ffwl (cyfres fer, 1993)
- Caffi Sali Mali (Tomos Caradog, 1990au, Sianco ar gyfer S4C)
- Chwedlau (storiwr, 1990au, Fiti-Tifi ar gyfer S4C)
- Treflan (prif gymeriad - Capten Richard Trefor, 2002-2004)
- Bob a'i Fam (prif cymeriad - Bob, 2002)
Cyfarwyddo
Dramâu llwyfan
- Llwyth
- Ceisio'i Bywyd Hi
- Yr Argae
- Maes Terfyn (Sherman Cymru)
- Gwe o Gelwydd (Cwmni Inc)
- Mae Sera'n Wag
- Hedfan Drwy'r Machlud (Sgript Cymru)
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
- Arwel Gruffydd ar Twitter