peoplepill id: arthur-rowlands
AR
5 views today
5 views this week
The basics

Quick Facts

The details (from wikipedia)

Biography

Heddwas o Gymro oedd Arthur Rees Rowlands (14 Mai 1922 – 2 Rhagfyr 2012) a ddaeth yn enwog fel "y Plismon Dall" wedi iddo golli ei olwg pan gafodd ei saethu gan leidr ar bont ym Machynlleth ym 1961.. Fe'i ganwyd yn y Bala yn fab i ffermwr.

Ar 2 Awst 1961 roedd Arthur Rowlands ar batrôl yn ardal Pont ar Ddyfi am 3 o'r gloch y bore ar ei ffordd adre o Fachynlleth i Gorris. Daeth o hyd i Robert Boynton, a dywedodd Boynton iddo, "you shouldn’t have come, I'm gonna kill you" cyn saethu gwn siot .410 at Arthur. Daeth plismyn o Scotland Yard i drefnu helfa am Boynton, a daethant o hyd iddo yn pluo cyw iâr ger afon. Bu farw Boynton yn Ysbyty Broadmoor ym 1994 tra'n bwrw dedfryd o garchar am 32 mlynedd.

Wedi iddo wella o'i anafiadau, dychwelodd Arthur Rowlands i weithio ar switsfwrdd Heddlu Gogledd Cymru yng Nghaernarfon, a chafodd hefyd yrfa fel darlledwr gan gyfrannu at raglen Canllaw BBC Radio Cymru. Derbyniodd Fedal George am ddewrder, a chafodd ei urddo'n aelod o Orsedd y Beirdd ym 1980. Bu farw yn ei gartref yng Nghaernarfon yn 2012 yn 90 oed.

Cyfeiriadau

Llyfryddiaeth

  • Baines, Enid Wyn. Mae'r Dall yn Gweld: Stori Bywyd Arthur Rowlands (Tŷ ar y Graig, 1983). ISBN 0946502145
The contents of this page are sourced from Wikipedia article. The contents are available under the CC BY-SA 4.0 license.
Lists
Arthur Rowlands is in following lists
comments so far.
Comments
From our partners
Sponsored
Credits
References and sources
Arthur Rowlands
arrow-left arrow-right instagram whatsapp myspace quora soundcloud spotify tumblr vk website youtube pandora tunein iheart itunes